Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog bron £107 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a fydd yn caniatâu cwblhau Ffordd Ddosbarthu’r Cyrion o amgylch Port Talbot.
Bydd hyn yn cwblhau’r ffordd gyswllt 4.8 cilometr i’r M4 ar gyffordd 38 i Bort Talbot a’r dociau, gan wasanaethu fel cyswllt hollbwysig i Orllewin Cymru, rhwydwaith draffyrdd Prydain, y rhwydwaith gefnffyrdd a thir mawr Ewrop.
Meddai Mr Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth,
"Er gwaethaf yr amseroedd economaidd heriol, rydym yn benderfynol o fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf fydd yn dod â manteision strwythurol ac economaidd hirdymor.
“Mae ein polisi newydd o Adnewyddu Economaidd yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu’r seilwaith cywir i hybu ein heconomi a chefnogi pobl, cymunedau a busnesau – ac rwy’n hyderus y bydd y ffordd hon, unwaith y bydd wedi’i chwblhau, o fudd mawr i Dde-orllewin Cymru yn gyffredinol.”
Mae disgwyl i’r cynllun greu oddeutu 600 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu o 33 mis.
Bydd y cam olaf yn cysylltu â chamau sydd eisoes wedi’u cwblhau, ac yn sicrhau bod hyd at 210 o hectarau ar gael, o dir llwyd yn bennaf, i ddatblygu BBaCh a diwydiannau eraill sydd â mynediad i farchnadoedd Ewrop, gan greu cyfleoedd gwaith ac adfywio’r ardal.
Bydd y fynedfa i Ddociau Port Talbot a’r Harbwr Dŵr Dwfn yn cael eu gwella, gan greu cyfleoedd i gludo nwyddau o’r ffyrdd i’r môr, mwy o weithgarwch llongau a datblygu glan y dŵr.











