Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwefan Traffig Cymru’n mynd yn fyw ar ei newydd wedd

Heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 24) mae Traffig Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth a rheolaeth traffig Llywodraeth Cymru, yn lansio gwefan hawdd ei defnyddio, ar ei newydd wedd, a fydd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn i fodurwyr allu cynllunio eu siwrneiau.
Dydd Iau 24 Tachwedd 2011

Bydd y wefan ddwyieithog hon – sy’n cael ei hadnewyddu a’i diweddaru’n gyson gyda gwybodaeth allweddol - yn cynnwys nifer o nodweddion newydd a fydd yn helpu gyrwyr i wneud penderfyniadau ynghylch teithio mewn modd cytbwys a di-straen.  

Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • Calendr syml a fydd yn dangos unrhyw waith fydd yn cael ei wneud ar y ffyrdd neu unrhyw ddamweiniau;
  • Adran benodol ar gyfer cludiant nwyddau ar y ffyrdd;
  • Mapiau Bing Microsoft er mwyn i ddefnyddwyr ddod o hyd i leoliadau yn haws, ac sy’n cynnwys lleoliadau damweiniau, unrhyw waith ar y ffordd, digwyddiadau sy’n cael eu cynnal, arwyddion sy’n dangos negeseuon (testun sy’n ymddangos ar y pryd) a theledu cylch cyfyng;
  • Gwasanaeth rhybudd e-bost neu destun sy’n rhoi gwybod ar unwaith i danysgrifwyr fod damwain fawr wedi digwydd;
  • Dolenni gwell i wefannau sy’n rhoi gwybodaeth am waith ar y ffyrdd neu am ffyrdd yn cau yn ardaloedd awdurdodau lleol Cymru;
  • Rhybuddio’r cyhoedd am unrhyw broblemau teithio eraill ar wahân i’r rhwydwaith ffyrdd e.e. oedi gyda hediadau neu drenau.

Dywedodd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant,

“Mae’n hanfodol bod modurwyr yn cael gwybodaeth ar y pryd sy’n gyflym ac yn hawdd cael gafael arni. Yna gallant gynllunio eu siwrneiau ac o bosib osgoi’r tagfeydd.

“Bydd gwefan Traffig Cymru ar ei newydd wedd yn fwy hwylus, yn well a haws ei ddefnyddio, ac yn cynnwys hefyd gyfryngau mwy confensiynol fel y radio, i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch teithio.”

Cofnodwyd 763,000 o ymweliadau â gwefan Traffig Cymru rhwng Hydref 2010 a Medi 2011 – ar gyfartaledd tua 64,000 y mis. Cafwyd y mwyaf ar 17 Rhagfyr 2010 pan ymwelwyd â’r wefan 71,682 gwaith yn ystod y gaeaf caled pan gaewyd nifer o ffyrdd lleol.

Mae Traffig Cymru’n casglu ac yn dosbarthu gwybodaeth traffig amser real sy’n ymwneud â digwyddiadau ar gefnffyrdd Cymru.

Defnyddir dwy ganolfan reoli, un yn y De ar hyd yr M4 ac un yn y Gogledd ar hyd yr A55. Cânt eu defnyddio i reoli’r cefnffyrdd a’r priffyrdd yng Nghymru drwy ddefnyddio teledu cylch cyfyng ac arwyddion electronig.

Mae Traffig Cymru’n sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd ac i’r cyfryngau er mwyn helpu i roi cyngor am unrhyw ddigwyddiadau a all achosi problemau wrth deithio ar ein ffyrdd. Bydd y wefan hon yn chwarae rôl well yn hyn o beth.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ffyrdd

Gwefannau

Traffic Wales

Tagiau

Trafnidiaeth 24 Tachwedd 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i