Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus i ehangu ei wybodaeth

Heddiw (dydd Iau, 1 Rhagfyr), bydd Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus (PTUC) yn hysbysebu am aelodau ychwanegol i rannu’u barn a’u profiadau yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru.
Dydd Iau 01 Rhagfyr 2011

Mae’r PTUC - a sefydlwyd i gynghori Gweinidogion Cymru ar faterion strategol yn ymwneud â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru - wedi dod i’r casgliad bod angen iddo gryfhau ei wybodaeth a’i arbenigedd mewn perthynas â materion trafnidiaeth yn y Gogledd.

Bydd gofyn i ymgeiswyr brofi bod ganddyn nhw amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau gwahanol gan gynnwys profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd yn aml a dealltwriaeth helaeth o faterion trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn y Gogledd yn arbennig.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Trafnidiaeth,

“Mae PTUC yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn diwallu anghenion defnyddwyr yn well er budd y defnyddwyr cyfredol a rhai’r dyfodol.

“Er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a deniadol, mae’n rhaid i ni wrando ar farn y defnyddwyr.

“Bydd penodi aelodau newydd sydd â phrofiad helaeth o ddefnyddio’r system trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd yn golygu bod gan y Pwyllgor fwy o amrywiaeth byth o ran profiad, gwybodaeth ac arbenigedd.”

Mae gan y Pwyllgor 10 aelod ar hyn o bryd, gan gynnwys y Cadeirydd Adele Baumgardt, sydd wedi’u penodi am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd.

Mae’r Pwyllgor yn cwrdd bob chwarter ym mhedwar rhanbarth Cymru gan geisio barn amrywiaeth o grwpiau sydd â diddordeb ar faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yn eu rhanbarthau.

Bydd yr hysbysebion am aelodau ychwanegol i PTUC yn cael eu cyhoeddi heddiw gyda’r cyfweliadau yn cael eu cynnal a’r penodiadau yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru

Tagiau

Trafnidiaeth 01 Rhagfyr 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i