Daw’r penderfyniad hwn ar ôl ymgynghoriad 12 wythnos. Yn ystod yr ymgynghoriad rhoddwyd sylw i faterion fel y ffi y byddai’n rhaid ei chodi ar ddefnyddwyr y Bathodyn Glas i dalu am y costau ychwanegol fydd yn codi wrth gyflwyno’r bathodyn newydd. Mae dyluniad y bathodyn wedi’i wella er mwyn ei gwneud yn fwy anodd ei gopïo, ei ffugio a’i addasu.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Mae pobl anabl yng Nghymru bron ddwywaith mor debygol â phobl nad ydynt yn anabl o fyw mewn cartrefi ag incwm isel. Maent hefyd yn wynebu costau ychwanegol wrth reoli eu hanabledd, ac mae hynny’n gallu dwysáu’r tlodi.”
“Yn y Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i leihau tlodi ymysg rhai o’n cymunedau a’n pobl dlotaf.
“Felly, rydw i wedi penderfynu peidio â chodi ffi ar unigolion sydd â Bathodyn Glas.
“Er mwyn gallu gwneud hynny, rydw i’n adolygu meysydd gwariant ac yn chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o weithio ym mhob maes – er enghraifft rydw i’n ymgynghori ar opsiynau a allai arwain at fwy o effeithlonrwydd yn ein dulliau o hysbysebu gorchmynion traffig.”
Bydd yr arbedion hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer Awdurdodau Lleoli i’w galluogi i dalu am gostau’r bathodyn newydd. Bydd modd i awdurdodau lleol godi hyd at £10.00 am fathodyn sefydliadol a bathodynnau coll.
Mae hynny’n wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr a’r Alban, lle gall awdurdodau lleol godi hyd at £10 a £20, yn y drefn honno, am Fathodyn Glas.
Ymysg y gwelliannau eraill i’r system bydd cynlluniau i fynd i’r afael â phobl sy’n camddefnyddio’r system – problem sy’n gallu cael effaith ddifrifol ar ddefnyddwyr dilys. Bydd llyfryn yn cael ei gyhoeddi hefyd, yn nodi hawliau a chyfrifoldebau’r rhai sydd â bathodynnau.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i hysbysebu gorchmynion ffyrdd.











