Cafodd y prosiect ei gwblhau ar amser ac yn unol â’r gyllideb. Bydd nifer o fesurau newydd yn gwella’r amserau teithio a diogelwch ar y rhan hon o’r A470. Mae’r rhain yn cynnwys cael gwared ar droeon garw a chyfyngiadau mewn perthynas â phontydd, a chreu mannau mwy diogel i oddiweddyd.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r llwybr newydd ym mis Chwefror 2010. Cafodd ei wneud gan y contractwr lleol Alun Griffiths ar ran Llywodraeth Cymru, ac roedd 180 o bobl yn gweithio ar y prosiect.
Wrth siarad cyn y digwyddiad i agor y ffordd yn swyddogol, dywedodd Carl Sargeant:
"Mae’r ffordd newydd hwn yn rhan allweddol o rwydwaith cefnffyrdd Cymru, gan gysylltu’r gogledd a’r de a gwasanaethu’r cymunedau lleol.
"Wrth gael gwared ar y troeon garw a’r cyfyngiadau oherwydd y pontydd, a thrwy greu mannau mwy diogel i yrwyr oddiweddyd, bydd y cynllun yn gwella diogelwch y ffordd ac yn lleihau amserau teithio’n sylweddol.
"Dyma un arall o brosiectau ffyrdd Llywodraeth Cymru sydd wedi’i gwblhau ar amser ac yn unol â’r gyllideb. Mae’n dystiolaeth bellach o’n penderfyniad i wella’r seilwaith trafnidiaeth. Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i gynyddu symudedd, i wella cysylltedd ac i roi hwb i dwf economaidd ledled Cymru.”
Yn ystod y broses adeiladu, cafodd plant ysgol lleol eu gwahodd i weithdy celf i gynnig syniadau am gerflun a fydd yn nodwedd barhaus ar y llwybr newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Hopkins, Cyngor Sir Powys:
"Mae croeso mawr i’r ffordd newydd am ei fod yn darparu llwybr mwy diogel inni yn y Canolbarth. Bydd yn gwella ansawdd bywyd yn fawr i’r bobl sy’n byw yng nghyffiniau’r hen ffordd. Mae’r cyngor wedi rhoi cefnogaeth lawn i’r prosiect, sydd wedi diogelu swyddi gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol.
"Trwy osgoi’r bont reilffordd isel yng Nghwm-bach, bydd y ffordd newydd yn caniatáu i bob math o draffig ddefnyddio’r A470, gan wella cadernid y rhwydwaith cefnffyrdd. Gydag amser, bydd y coed a’r llwyni a blannwyd yn aeddfedu, a bydd y ffordd yn toddi i’r dirwedd fryniog.
Mae’r ffordd newydd yn rhedeg tua’r gogledd ar ochr orllewinol cefnffordd bresennol yr A470, o’r de i fynedfa’r Pentref Pobl Ifanc yn Court Farm."
Nid nepell o reilffordd Calon Cymru, mae’r ffordd yn croesi ceunant dwfn ar bont tri rhychwant. Mae’n croesi’r A470 presennol ar bont newydd cyn parhau tua’r gogledd ar ochr ddwyreiniol yr A470, gan groesi Afon Ieithon ar bont newydd ac ymuno â’r ffordd bresennol cyn cyrraedd Pontnewydd-ar-Wy.











