Fe ymwelodd y Gweinidog â’r safle yn ddiweddar er mwyn gweld sut yr oedd cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i adeiladu lôn newydd benodedig ar gyfer traffig sy’n gadael yr M4 tua’r dwyrain er mwyn teithio i’r gogledd ar hyd cefnffordd yr A470.
Disgwylir i’r lôn newydd ostwng tagfeydd, gwella’r llif traffig a gwella diogelwch ar ffordd ymadael y gerbytffordd tua’r dwyrain.
Dywedodd y Gweinidog,
“Am nifer o flynyddoedd, bu tagfeydd yn broblem i’r rhai sy’n gyfarwydd â defnyddio cyfnewidfa Coryton.
“Rwy’n hyderus y bydd y lôn benodedig newydd hon ar gyfer yr A470 yn mynd ran fawr o’r ffordd i ddatrys y broblem honno, ac yn helpu i wella diogelwch.
“Fe hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i ddefnyddwyr ffyrdd am eu hamynedd yn ystod y gwaith adeiladu ac hefyd i’r contractwyr am gwblhau’r cynllun mewn pryd ac o fewn y gyllideb.”
Cafodd y gwaith ei wneud dros nos er mwyn sicrhau ei fod yn amharu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr ffyrdd, busnesau lleol a phreswylwyr. Dros y mis diwethaf, bu’r gwaith yn parhau 24 awr y dydd er mwyn sicrhau bod y lôn benodedig newydd wedi’i chwblhau cyn y Nadolig.











