Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i wella llif y traffig ar yr M4

Heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad i edrych ar y problemau a wynebir gan yrwyr sy’n defnyddio’r M4 rhwng Magwyr a Chas-bach.
Dydd Mawrth 06 Mawrth 2012
Bydd yr Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 ar agor tan 6 Mehefin.
Bydd yr Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 ar agor tan 6 Mehefin.

Bydd yr Ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 ar agor tan 6 Mehefin, a bydd y cyhoedd yn cael y cyfle, trwy arddangosfeydd, gweithdai, ffurflenni ymateb a gwefannau, i ddweud wrthym am unrhyw broblemau y maen nhw wedi’u cael ar y darn hwn o’r M4, ac i leisio’u barn am y ffordd orau o ddatrys y problemau hynny.

Cynhelir gweithdai i’r cyhoedd rhwng 10am-3pm:

  • Ddydd Mawrth, 13 Mawrth: Tŷ Tredegar , Casnewydd
  • Dydd Iau, 15 Mawrth: Neuadd yr Urdd, Caerdydd
  • Dydd Mawrth, 20 Mawrth: Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Y Guildhall, Abertawe

Hefyd cynhelir arddangosfeydd galw heibio rhwng 12pm a 7pm:

  • Ddydd Mercher, 28 Mawrth: Coleg Gwent, Campws Dinas Casnewydd
  • Dydd Iau, 29 Mawrth: Eglwys y Bedyddwyr Ebeneser, Magwyr
  • Dydd Gwener, 13 Ebrill: Tŷ Brynglas, Brynglas
  • Dydd Mawrth, 17 Ebrill: Canolfan Casnewydd, Casnewydd

Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant:

"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod tagfeydd traffig yn broblem ar y darn hwn o’r M4. Felly mae gwella llif y traffig ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru ac yn un o’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, sydd hefyd yn flaenoriaeth."

"Mae’n hanfodol ei bod hi’n hawdd mynd at ysgolion, ysbytai a lleoedd gwaith os ydyn ni am wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn modd sy’n ein helpu i fod yn gystadleuol."

"Hoffwn annog pobl i roi eu sylwadau a dweud wrthym am eu profiadau trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn er mwyn inni allu gwella llif y traffig ar yr M4. Gallwn wedyn fynd ati i wella’r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn ar gyfer y dyfodol."

Y llynedd, daeth amrywiaeth o bobl sy’n defnyddio ac yn rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth rhwng cyffordd 23a a chyffordd 29 at ei gilydd i edrych ar nifer o bosibiliadau. Gwnaethon nhw argymell nifer o opsiynau a allai helpu i ddatrys problem y tagfeydd ar y darn hwn o’r M4.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddod i ddeall yr argymhellion hynny a lleisio barn ar y dewisiadau a gynigir i ddatrys y broblem.

Yn ogystal â gweithdai a sesiynau galw heibio, gallwch gael rhagor o wybodaeth a rhoi eich sylwadau trwy fynd i www.m4cem.com neu www.wales.gov.uk/consultations

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Mesurau Gwella Coridor yr M4 Magwyr i Gas-bach (M4 CEM) - Lleddfu’r Llif

Tagiau

Trafnidiaeth 06 Mawrth 2012 Yr economi Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i