Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Seddi newydd cyfforddus i’r bysiau Traws Cymru

Bydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Carl Sargeant, yn Wrecsam heddiw, i ymweld â chwmni cynhyrchu seddi bysiau o’r enw Esteban UK.
Dydd Gwener 16 Mawrth 2012

I’r cwmni hwn o’r gogledd-ddwyrain y dyfarnwyd y contract i gyflenwi seddi modern cyffyrddus i’r fflyd newydd o fysiau Traws Cymru a fydd yn cludo teithwyr  ar hyd y llwybr teithio ‘T4’ rhwng y Drenewydd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Aberhonddu, Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerdydd.

Mae’r seddi newydd wedi cael eu dylunio’n ofalus ar ôl ymgynghori â theithwyr, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.2m gan Lywodraeth Cymru i wella ac ehangu’r rhwydwaith bysiau TrawsCambria.

Wrth siarad cyn ymweld ag Esteban UK, dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n hanfodol datblygu trafnidiaeth gynaliadwy ac annog pobl i’w defnyddio er mwyn gwella’r cysylltiadau teithio ledled Cymru.”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwasanaeth newydd Traws Cymru ar ôl gwrando ar ddymuniadau pobl; bydd y gwasanaeth ‘gwyrdd’ hwn yn diwallu anghenion cymunedau lleol drwy ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol rhwng ein prif drefi.

“Bydd busnesau lleol fel Esteban hefyd yn manteisio ar y Traws Cymru newydd, gan fod y contract seddi hwn yn cadw pobl yn eu swyddi ac yn rhoi hwb i’r economi leol”.

Dywedodd Julian Grzesiczek, Rheolwr Gyfarwyddwr Esteban UK,

“Roedd yn braf iawn cael cydweithio’n agos â Traws Cymru mewn partneriaeth go iawn i ddylunio a chreu seddi arbennig newydd sbon sy’n trawsnewid profiad y teithiwr ar gludiant cyhoeddus.

“Yma yn ein ffatri yn Wrecsam, rydym wedi dylunio ac adeiladu seddi sy’n harddu a gwella tu mewn y cerbydau a’n gobaith yw y byddant yn plesio’r mwyafrif helaeth o deithwyr.

“Mae’r prosiect cydweithredol hwn wedi bod yn ysbrydoliaeth; rydym wedi llwyddo i wella ansawdd a dyluniad y seddi a’u gwneud yn fwy cyffyrddus i’r teithiwr, gan greu swyddi a gwella ein sgiliau yn lleol ar yr un pryd.’

Mae’r buddsoddiad hwn wedi sicrhau gwaith yn ffatri Actia UK yn y Drenewydd, Powys hefyd.  

Actia UK sydd wedi cyflenwi’r holl offer trydanol ar fysiau newydd Traws Cymru, gan gynnwys system rheoli injan newydd uwch-dechnolegol sy’n monitro’r allyriadau CO2 ac effeithlonrwydd tanwydd. Bydd system tracio lloeren GPS a theledu cylch cyfyng ar y bysiau hefyd.

Yn ogystal â seddi lledr cyfforddus gyda mwy o le i’r teithwyr ymestyn eu coesau, bydd pob cerbyd newydd llawr isel yn cael system aerdymheru a mwy o le i storio bagiau hefyd.

Bydd modd dal bws Traws Cymru bob dwy awr  i’r ddau gyfeiriad ar lwybr teithio newydd T4 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Dyma’r llwybr bysiau Traws Cymru cyntaf i gael ei gyflwyno, ond yn y pen draw bydd rhwydwaith o fysiau moethus pellter-hir ar draws Cymru.

Cafodd y gwasanaeth newydd ei ddatblygu ar ôl ymgynghori â’r teithwyr, oedd yn gofyn am wasanaeth cyflymach ac uniongyrchol rhwng prif drefi Powys a Chaerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n cyllido’r gwasanaeth fel rhan o’i hymrwymiad yng Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, caredig i’r amgylchedd sy’n cysylltu cymunedau â phrif drefi a dinasoedd ledled Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Trafnidiaeth 16 Mawrth 2012 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i