Mae’n cyflwyno bathodynnau newydd i’w gosod ar ffenestri blaen, sy’n rhad ac am ddim i rai â bathodyn glas unigol yng Nghymru. Mae nifer o ddyfeisiadau diogeledd ychwanegol ar y bathodyn hefyd a fydd yn eu gwneud yn llawer anoddach i’w ffugio ac i’w defnyddio’n dwyllodrus.
Wedi’u cysylltu i fasdata cenedlaethol newydd o ddeiliaid bathodynnau, bydd y bathodynnau newydd yn ei gwneud yn llawer haws i’r heddlu a swyddogion gorfodaeth ganfod ‘gwylliaid y gofod’ sef y rhai sy'n cam-drin y system i barcio'n anghyfreithlon mewn mannau dynodedig ac sy’n achosi anghyfleustra enfawr - ac weithiau boen corfforol - i yrwyr gydag anabledd a'u teithwyr.
Bydd y bathodynnau newydd yn cael eu lansio’n swyddogol heddiw yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda chymorth chwaraewyr rygbi Gleision Caerdydd, a fydd yn ‘codi’ ac yn symud ceir wedi’u parcio’n anghyfreithlon i gynyddu ymwybyddiaeth o’r broblem.
Yng Nghymru mae tua 230,000 bathodyn glas yn cael eu defnyddio a 2.5 miliwn ar draws y DU. Mae adroddiad swyddogol Llywodraeth y DU wedi dangos fod y system yn cael ei chamddefnyddio’n helaeth, naill ai drwy ffugio'r bathodynnau neu eu defnyddio heb hawl. Yn ogystal â’r effaith negyddol mae hynny’n ei gael ar bobl gydag anabledd, roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif fod defnydd twyllodrus neu anaddas o’r bathodynnau yn costio tua £46 miliwn y flwyddyn i’r DU mewn talu ffioedd parcio heb gael eu talu.
Hefyd yn helpu lansio’r bathodynnau newydd heddiw mae’r cyn filwr anabl sydd â bathodyn glas, Paul Davies, 49 oed o Fargod. Cafodd y cyn Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig, a dderbyniodd MBE yn 2011 am wasanaethau i rygbi a feteraniaid y fyddin, ei barlysu o’r wast i lawr ar ôl cael ei anafu mewn gêm rygbi filitaraidd ym 1983. Mae Paul yn dweud ei fod yn cyfarfod â 'gwylliaid y gofod' yn rheolaidd. Meddai:
“Dyw gyrwyr ddim yn cymryd sylw o’r arwyddion, naill ai oherwydd diogi neu nad ydyn nhw’n gwybod pa mor anodd mae'n gallu bod i berson gydag anabledd barcio mewn lle arferol.
“Mae ramp wedi'i gosod yn ein car ni, felly alla i ddim parcio mewn lle cul. Os nad oes lleoedd i’r anabl ar gael, mae’n rhaid i fy ngwraig stopio yn y ffordd i ollwng y ramp ac i minnau fynd allan. Yna, mae’n rhaid codi’r ramp mynd yn ôl unwaith eto, mae’n rhaid i mi fynd allan o’r ffordd ac mae fy ngwraig yn gorfod parcio’r car yn y lle parcio. Ar wahân i fod yn broses hir, mae’n dal y traffig i fyny, sy’n rhwystredig i yrwyr eraill ac yn embaras i mi. Byddai’n dda gen i petai gyrwyr yn ystyried ychydig am ein sefyllfa ni”.
Mae ffyrdd o gamddefnyddio’r cynllun bathodyn glas yn cynnwys gwneud copïau ffug yn ogystal â defnyddio bathodyn person gydag anabledd rhywun arall. Mae’r bathodynnau newydd yn cario nifer o nodweddion diogeledd sy’n cael eu cadw’n gyfrinachol iawn er mwyn sicrhau eu bod yn anodd iawn, iawn, eu ffugio. Bydd yn ei wneud yn haws i swyddogion wirio’r manylion trwy’r ffenestri blaen.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant:
“Pan mae pobl yn cam-drin bathodynnau glas, neu leoedd parcio i’r anabl nad oes ganddyn nhw hawl i fod yno, maen nhw'n effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd yr unigolion sy'n cario bathodynnau'n gyfreithlon. Mae bathodynnau glas yn caniatáu i bobl mewn angen gwirioneddol fyw eu bywydau’n annibynnol. Drwy dresmasu ar leoedd bathodyn glas, mae gyrwyr eraill yn achosi nid yn unig anghyfleustra mawr i’r person gydag anabledd, ond hefyd boen corfforol.”
Bydd y bathodynnau glas newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf pan fydd y bathodynnau presennol yn cael eu hadnewyddu. Bydd y rhain yn rhai plastig, wedi’u hargraffu’n electronig ac â llun a gwybodaeth a fydd yn cael eu cadw ar fasdata canolog. Golyga hynny y bydd swyddogion gorfodaeth yn gallu gwirio gwybodaeth nid yn unig ar ddeiliaid bathodyn glas yn ardal eu hawdurdod lleol nhw, ond o unrhyw le ar draws y DU, gan ei gwneud yn llawer anoddach i dwyllo’r system. Roedd y bathodynnau glas blaenorol o gardfwrdd ac wedi’u hysgrifennu â llaw, gan eu gwneud yn llawer haws i’w ffugio neu’u defnyddio’n amhriodol.











