Mae’r cynlluniau a fu’n llwyddiannus yn eu cais am yr arian cyfalaf yn cynnwys:
- Ysbyty Ystrad Fawr – gwelliannau i’r briffordd, Caerffili - £99,000
- Mynediad i Ystad Ddiwydiannol Port Talbot – £850,000
- Rhan 2 o ffordd fynediad Ystad Ddiwydiannol Wrecsam - £7,274,000
Meddai Carl Sargeant:
“Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol ymhob rhan o Gymru wella eu seilwaith trafnidiaeth, a bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r economïau lleol o ran diogelu swyddi.”
“O ganlyniad i’r arian gwerthfawr hwn, bydd pobl sy’n defnyddio’r ffyrdd yn gweld gwelliant amlwg - nid yn unig o ran amser teithio a diogelwch, ond hefyd o ran gwell cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer busnesau.”
Bydd y buddsoddiad yn sicrhau dros £30 miliwn o arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn 2012/13, a gaiff ei fuddsoddi hefyd i wella seilweithiau trafnidiaeth lleol.
Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dilyn y £25 miliwn a ddosbarthwyd yr wythnos diwethaf rhwng y pedwar consortiwm trafnidiaeth yng Nghymru.
Bydd yr arian yn galluogi pob consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol i roi cynlluniau ar waith i gefnogi eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i wella diogelwch ar y ffyrdd ymhob rhan o Gymru.











