Caiff y grant cyfalaf Llwybrau Diogel i Gymunedau ei ddefnyddio i greu llwybrau beicio a cherdded i gyfleusterau cymunedol fel ysgolion, ysbytai, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol.
Dyma rai o’r ceisiadau llwyddiannus a fydd yn elwa o’r grant:
Dolen Gymunedol Aber-big – gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio rhwng Aber-big a Six Bells - £156,000
Llangrallo – mesurau arafu cyflymder, gosod cyrbau is, gwella cyffyrdd, gwella arwyddion - £180,000
Pen-bre – parthau 20 milltir yr awr, mesurau gostegu traffig, darparu mannau croesi newydd a gwell, lledu ffyrdd - £558,000
Bodedern – llwybr troed newydd, croesfan sebra, cyfyngiadau cyflymder a gwell cyfleusterau i gerddwyr yng nghyffiniau’r ysgol - £184,000
Rhuthun – bydd y cynllun yn darparu gwelliannau drwy’r gymuned trwy gyflwyno croesfannau ychwanegol i gerddwyr a chyfleusterau storio beiciau - £120,000
Dywedodd Carl Sargeant:
“Dim ond drwy ddarparu dewisiadau realistig a phleserus i bobl yn lle defnyddio’r car y gallwn gyflawni ein nod o newid agwedd pobl at drafnidiaeth a datblygu system drafnidiaeth sy’n wirioneddol gynaliadwy yma yng Nghymru.”
“Mae manteision defnyddio dulliau teithio cynaliadwy yn amrywiol iawn – o fwynhau ymarfer corff iach wrth i chi gerdded neu feicio i’r gwaith i leihau tagfeydd traffig yn ein trefi a’n dinasoedd.
“Mae pob un ohonom yn ymwybodol bod rhaid i ni leihau ein hôl troed carbon, a gall cerdded a beicio, yn hytrach na gyrru, helpu i wneud gwir wahaniaeth.”
“Mae’r cyllid hwn yn cael ei groesawu’n fawr, a bydd yn helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio cynaliadwy trwy gyfuniad o fentrau a fydd yn annog pobl i gerdded a beicio mwy.”











