Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Buddsoddi £5 miliwn mewn cerdded a beicio

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel ar hyd a lled Cymru.
Dydd Gwener 30 Mawrth 2012

Caiff y grant cyfalaf Llwybrau Diogel i Gymunedau ei ddefnyddio i greu llwybrau beicio a cherdded i gyfleusterau cymunedol fel ysgolion, ysbytai, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol.

Dyma rai o’r ceisiadau llwyddiannus a fydd yn elwa o’r grant:

Dolen Gymunedol Aber-big – gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio rhwng Aber-big a Six Bells - £156,000

Llangrallo – mesurau arafu cyflymder, gosod cyrbau is, gwella cyffyrdd, gwella arwyddion - £180,000

Pen-bre – parthau 20 milltir yr awr, mesurau gostegu traffig, darparu mannau croesi newydd a gwell, lledu ffyrdd - £558,000

Bodedern – llwybr troed newydd, croesfan sebra, cyfyngiadau cyflymder a gwell cyfleusterau i gerddwyr yng nghyffiniau’r ysgol - £184,000

Rhuthun – bydd y cynllun yn darparu gwelliannau drwy’r gymuned trwy gyflwyno croesfannau ychwanegol i gerddwyr a chyfleusterau storio beiciau - £120,000

Dywedodd Carl Sargeant:

“Dim ond drwy ddarparu dewisiadau realistig a phleserus i bobl yn lle defnyddio’r car y gallwn gyflawni ein nod o newid agwedd pobl at drafnidiaeth a datblygu system drafnidiaeth sy’n wirioneddol gynaliadwy yma yng Nghymru.”

“Mae manteision defnyddio dulliau teithio cynaliadwy yn amrywiol iawn – o fwynhau ymarfer corff iach wrth i chi gerdded neu feicio i’r gwaith i leihau tagfeydd traffig yn ein trefi a’n dinasoedd.  

“Mae pob un ohonom yn ymwybodol bod rhaid i ni leihau ein hôl troed carbon, a gall cerdded a beicio, yn hytrach na gyrru, helpu i wneud gwir wahaniaeth.”  

“Mae’r cyllid hwn yn cael ei groesawu’n fawr, a bydd yn helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio cynaliadwy trwy gyfuniad o fentrau a fydd yn annog pobl i gerdded a beicio mwy.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Trafnidiaeth 30 Mawrth 2012 Rhaglen Lywodraethu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i