Ymysg prif bwyntiau’r ymgynghoriad mae:
- Cadw’r isafswm ffi o £150 sy’n daladwy gan droseddwyr i fynd ar y cwrs er mwyn cadw ansawdd y cynllun yn uchel
- Bydd darparwyr yn gallu adennill ffioedd am y cwrs oddi wrth droseddwyr ymlaen llaw neu fel rhandaliadau, ar yr amod fod taliad llawn yn cael ei wneud cyn cwblhau’r cwrs
- Yn wahanol i Loegr a’r Alban, ni chodir ffi ymgeisio o £1,000 ar ddarparwyr sy’n ceisio cymeradwyaeth i gynnal cyrsiau yng Nghymru.
Ers 2004, mae Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron yng Nghymru wedi gallu cynnig atgyfeiriad i gwrs a gymeradwyir ar gyfer adsefydlu gyrwyr sy’n yfed a gafodd eu gwahardd rhag gyrru am gyfnod o 12 mis o leiaf am drosedd yfed a gyrru berthnasol.
Dywedodd Carl Sargeant:
“ Yn 2010, cafodd 89 o bobl eu lladd ar y ffyrdd yng Nghymru. O’r rhieni roedd un o bob pedwar yn gysylltiedig ag yfed a gyrru.”
“Er bod nifer y troseddau yfed a gyrru wedi disgyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n amlwg fod mwy y gellir ei wneud o hyd i wella’r sefyllfa.
“ Yn ôl tystiolaeth, mae mynd ar y cwrs yn lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd o aildroseddu. Felly mae’n hanfodol fod y Cynllun yn parhau i fod yn addas i’r diben, a’n bod yn annog mwy o droseddwyr i fynd ar y cwrs.”
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio’r meini prawf y mae’n rhaid i sefydliadau eu bodloni er mwyn darparu’r cwrs. O dan y newidiadau arfaethedig yng Nghymru, dylai’r holl ddarparwyr allu cynnig cyrsiau mewn ardaloedd gwledig a dylai fod ganddynt brofiad blaenorol o weithio gyda cham-drin sylweddau.
Er mwyn sicrhau nad yw sefydliadau bach a chanolig eu maint o dan anfantais, nid oes angen i ddarparwyr y cwrs allu cwmpasu ardaloedd daearyddol mawr.
Yn ôl tystiolaeth a gynhaliwyd ar ran yr Adran Drafnidiaeth yn 2004, datgelwyd bod troseddwyr sy’n mynd ar y cynllun adsefydlu gyrwyr sy’n yfed 2.6 gwaith yn llai tebygol o aildroseddu.
Mae trefniadau dros dro’n cael eu gwneud â darparwyr presennol i newid o’r hen Gynllun i’r Cynllun newydd yn ddidrafferth.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am chwe wythnos.











