Caiff yr arddangosfeydd ychwanegol, a fydd yn rhoi cyfle arall i’r cyhoedd rannu eu pryderon a chael gwell dealltwriaeth o’r datrysiadau sy’n cael eu hystyried fel rhan o Ymgynghoriad Mesurau i Wella Coridor yr M4, eu cynnal fel a ganlyn:
- Dydd Gwener 11 Mai yn Nhŷ Brynglas (canol dydd - 7pm)
- Dydd Mawrth 15 Mai yn Eglwys y Bedyddwyr Ebeneser, Magwyr (canol dydd - 7pm)
- Dydd Iau 17 Mai yng Nghanolfan Casnewydd (canol dydd - 7pm)
Dywedodd y Gweinidog Drafnidiaeth, Carl Sargeant:
"Mae tagfeydd ar yr M4 yn bryder mawr i drigolion Casnewydd ac i’r bobl sy’n defnyddio’r llwybr hwn yn ddyddiol.
" Rydym eisoes yn cymryd nifer o gamau i fynd i’r afael â’r mater hwn ond mai galw mawr am ddatrysiad hirdymor i’r mater.
"Rydyn ni’n rhoi pob opsiwn posibl gerbron trigolion Casnewydd er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd ond nid ydym yn gorfodi unrhyw opsiwn ar y bobl.
“ Rwy’n annog trigolion lleol a gyrwyr i ddweud eu dweud a dod i’r arddangosfeydd galw heibio ychwanegol hyn er mwyn i ni ddatblygu’r datrysiad gorau.”
Mae cyfres o arddangosfeydd a gweithdai eisoes wedi’u cynnal, gyda phresenoldeb da, ac mae hyn wedi galluogi i’r cyhoedd rannu eu profiadau o’r rhan yma o’r M4 a rhoi eu barn ar sut i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Yn ogystal â’r arddangosfeydd ychwanegol, mae mis wedi’i ychwanegu at gyfnod yr ymgynghoriad a bydd bellach yn dod i ben ar 6 Gorffennaf.











