Bydd John Ablitt o Gaernarfon yn ymuno â’r Pwyllgor a sefydlwyd llynedd i roi cyngor i Weinidogion.
Mae ei brofiadau’n cynnwys cyfnod yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri lle bu’n Bennaeth Hamdden a Chyfathrebu, ac yn fwyaf diweddar yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu.
Yn ystod ei gyfnod gyda’r Parc roedd Mr Ablitt hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth gynaliadwy a nifer o brosiectau mynediad pwysig gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa a Menter Goriad Gwyrdd.
Gan groesawu’r penodiad dywedodd Carl Sargeant:
“Er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws i’w ddefnyddio ac yn fwy deniadol mae’n rhaid i ni wrando ar y rhai sy’n ei ddefnyddio, ac mae’r Pwyllgor Defnyddwyr yn ffordd allweddol i’n galluogi i wneud hyn.
“Mae gan John brofiad o’r system drafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru ac fe fydd yn sicr yn cryfhau'r profiad, gwybodaeth ac arbenigedd eang sydd gennym ar y Pwyllgor.”
Gofynnwyd i ymgeiswyr ddangos amrywiol sgiliau hanfodol a phrofiadau gan gynnwys defnydd rheolaidd o drafnidiaeth gyhoeddus gogledd Cymru a gwybodaeth sylweddol o faterion trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y gogledd.
Yn dilyn penodiad Mr Ablitt mae 11 o aelodau ar y Pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd, Adele Baumargdt. Penodwyd pob aelod yn y lle cyntaf am dair blynedd.
Mae’r Pwyllgor yn cwrdd yn chwarterol ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru, gan wrando ar dystiolaeth gan amrywiol grwpiau â diddordeb ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth yn eu rhanbarthau. Mae disgwyl i’r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.











