Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodiad newydd i’r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Carl Sargeant, wedi penodi aelod newydd i’r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus er mwyn cryfhau eu gwybodaeth a’u harbenigedd am ogledd Cymru.
Dydd Gwener 18 Mai 2012

Bydd John Ablitt o Gaernarfon yn ymuno â’r Pwyllgor a sefydlwyd llynedd i roi cyngor i Weinidogion.

Mae ei brofiadau’n cynnwys cyfnod yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri lle bu’n Bennaeth Hamdden a Chyfathrebu, ac yn fwyaf diweddar yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Parc roedd Mr Ablitt hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth gynaliadwy a nifer o brosiectau mynediad pwysig gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa a Menter Goriad Gwyrdd.

Gan groesawu’r penodiad dywedodd Carl Sargeant:

“Er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws i’w ddefnyddio ac yn fwy deniadol mae’n rhaid i ni wrando ar y rhai sy’n ei ddefnyddio, ac mae’r Pwyllgor Defnyddwyr yn ffordd allweddol i’n galluogi i wneud hyn.

“Mae gan John brofiad o’r system drafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru ac fe fydd yn sicr yn cryfhau'r profiad, gwybodaeth ac arbenigedd eang sydd gennym ar y Pwyllgor.”

Gofynnwyd i ymgeiswyr ddangos amrywiol sgiliau hanfodol a phrofiadau gan gynnwys defnydd rheolaidd o drafnidiaeth gyhoeddus gogledd Cymru a gwybodaeth sylweddol o faterion trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y gogledd.

Yn dilyn penodiad Mr Ablitt mae 11 o aelodau ar y Pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd, Adele Baumargdt. Penodwyd pob aelod yn y lle cyntaf am dair blynedd.

Mae’r Pwyllgor yn cwrdd yn chwarterol ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru, gan wrando ar dystiolaeth gan amrywiol grwpiau â diddordeb ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth yn eu rhanbarthau. Mae disgwyl i’r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Trafnidiaeth 18 Mai 2012 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i