Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynllun Ffordd Ddeuol A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Brynmawr a Thredegar wedi’u cymeradwyo

Mae cynigion ar gyfer ffordd ddeuol A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Brynmawr a Thredegar wedi’u cymeradwyo gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant.
Dydd Iau 19 Gorffennaf 2012
Mae cynigion ar gyfer ffordd ddeuol A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Brynmawr a Thredegar wedi’u cymeradwyo

Bydd y penderfyniad i fwrw ymlaen ag Adran 3 cynllun ffordd ddeuol yr A465 yn golygu gwella’r ffordd 7.8 cilomedr o hyd sy’n estyn o’r gogledd o gylchfan yr A465 ym Mrynmawr gan ymuno â’r rhan o’r A465 sydd eisoes wedi’i gwella, i’r gorllewin o gyffordd Nant-y-Bwlch yn Nhredegar.

Bydd y cynllun gwerth £150m, a fydd yn galluogi gyrwyr i weld yn well, yn rhoi mwy o gyfleoedd i oddiweddyd ac yn cael gwared ar fannau peryglus, yn cynnwys:

• Uwchraddio’r ffordd tair lôn bresennol i ffordd ddeuol lawn gyda chyffyrdd rhugl a wahenir gan raddiannau
• Ffordd feicio 3 cilomedr o hyd gydag arwyneb
• Man egwyl yn Garn Lydan gyda digonedd o le parcio, gwybodaeth i dwristiaid a mannau i edrych ar y golygfeydd tuag at Barc Rhanbarthol y Cymoedd a Pharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae’r A465 yn briffordd hollbwysig yn ein rhwydwaith trafnidiaeth a dyma’r prif gysylltiad rhwng Gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr.”

"Bydd gwneud ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffordd ddeuol yn helpu i wella diogelwch, lleihau amseroedd teithiau i deithwyr a busnesau a chyfrannu at adfywiad ehangach y rhanbarth.”

“Bydd ffordd well ar gyfer Blaenau’r Cymoedd hefyd yn helpu i drechu tlodi yn yr ardal drwy wella’r cysylltiadau â safleoedd pwysig ar gyfer addysg, canolfannau iechyd a swyddi.”

Gwnaed y penderfyniad i fwrw ymlaen ag adran 3 y cynllun ffordd ddeuol gan y Gweinidog yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth.

Penodwyd cwmni Carilion fel contractwr y prosiect ym mis Mawrth 2010. Bydd y cwmni yn cael cefnogaeth gan gwmnïau Arup a TACP a fydd yn darparu gwasanaethau ymgynghori peirianneg (Arup) ac amgylcheddol (TACP).

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle tua diwedd 2012 a dod i ben erbyn 2015.

Ar ôl i’r gwaith ddechrau bydd gan swyddfa’r safle ei chanolfan ymwelwyr ei hun lle bydd y cyhoedd yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion a sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

A465 Brynmawr i Tredegar Model rhithwir A465 Brynmawr i Tredegar

Tagiau

Trafnidiaeth 19 Gorffennaf 2012 Rhaglen Lywodraethu Programme for Government - Tackling Poverty Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i