Mae’r Gweinidog wedi cytuno i barhau i roi arian i’r diwydiant a’r awdurdodau lleol ar y lefel bresennol am hyd at chwe mis ar yr amod y bydd cynnydd yn cael ei wneud ar ddyfeisio system newydd a fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau yn hytrach na’r system bresennol sy’n seiliedig ar y defnydd o danwydd.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rydyn ni wedi cael trafodaeth lawn ac agored ar sut y bwriadwn fwrw ymlaen â’r mater hwn.”
“Er bod yna wahaniaethau rwy’n hyderus y gallwn, gydag ewyllys da a gwaith caled, ddatrys hyn.
“Rwyf wedi egluro na fu lleihad yn y cyllid mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i’r diwydiant bysiau. Tra bydd y trafodaethau hyn yn parhau i fod yn gynhyrchiol, ni fydd toriad i’r cyllid yn y chwe mis nesaf.
" Mae Llywodraeth San Steffan wedi torri’n llym iawn ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac mae hyn wedi rhoi pwysau anferthol ar ein cyllideb trafnidiaeth. Rydyn ni’n benderfynol o ddarparu’r gwasanaethau bysiau gorau posib yng Nghymru ond mae hynny’n golygu gwneud pethau’n wahanol.”
Dywedodd Michael Morton, Cadeirydd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sef cymdeithas fasnach y diwydiant bysiau:
“Mae’r cwmnïau bysiau wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu rhwydwaith bysiau sy’n effeithlon ac yn gynaliadwy ledled Cymru, ac rydyn ni’n falch o gael y cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol.”
“Rydyn ni’n edrych mlaen nawr at ddod o hyd i ddulliau eraill o ariannu a’u trafod â nhw er mwyn dod â pheth sicrwydd i’r diwydiant a’r teithwyr.”
Dywedodd y Cyng. Trevor Roberts sy’n cynrychioli Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol TAITH a Trac:
“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i barhau i ariannu gwasanaethau tyngedfennol y bysiau cymunedol tra bydd trafodaethau’n parhau dros ariannu yn y dyfodol.”
“Rydyn ni hefyd yn croesawu canllawiau clir y Gweinidog wrth iddo bennu amcanion ar gyfer yr adolygiad.
" Mae darparu rhwydweithiau bysiau o ansawdd dda yn rhan allweddol o drafnidiaeth integredig effeithiol yng Nghymru ac mae’r pedwar Consortia Trafnidiaeth a phartneriaid Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Chwmnïau Bysiau i ddod o hyd i’r atebion gorau posibl.”











