Glannau Dyfrdwy yw un o’r pum Ardal Fenter yng Nghymru i gael ei lansio heddiw, yn unol â’r Ardaloedd Menter yn Lloegr, ac fe fydd yr ardal hon yn canolbwyntio ar y diwydiant gweithgynhyrchu uwch. Penderfynwyd canolbwyntio’n benodol ar yr ardal hon oherwydd sgiliau’r gweithlu lleol.
Bydd Glannau Dyfrdwy yn manteisio ar Lwfans Cyfalaf Uwch, fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU, a fydd yn rhoi gostyngiad yn y dreth ar wariant ar offer a pheiriannau i gwmnïau sy’n buddsoddi yn yr ardal.
Dyma’r Ardaloedd Menter eraill yng Nghymru sy’n cael eu lansio heddiw:
- Ardal Fusnes Canol Caerdydd – a fydd yn canolbwyntio ar y sector Gwasanaethau Ariannol;
- Ynys Môn – a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni;
- Sain Tathan – a fydd yn canolbwyntio ar y sector awyrofod;
- Glyn Ebwy – a fydd yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis Medi diwethaf y byddai’n sefydlu Ardaloedd Menter yng Nghymru fel rhan o’i rhaglen polisi economaidd ac y byddai pob lleoliad yn canolbwyntio ar sector targed allweddol yn seiliedig ar gefndir sgiliau a gweithlu’r ardal.
Ym mis Ionawr cyhoeddodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, leoliadau Ardaloedd Menter eraill a ffefrir, sef Trawsfynydd, Eryri, a Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Sir Benfro.
Wrth ymweld â Glannau Dyfrdwy heddiw, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant fod cysylltiadau da’n hanfodol er mwyn i’r Ardaloedd Menter lwyddo a hybu twf economi Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae cysylltiadau trafnidiaeth uniongyrchol da rhwng Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a thraffyrdd allweddol yn ogystal â dau faes awyr rhyngwladol.
“Mae yma hefyd gysylltiadau trên uniongyrchol i Gaerdydd a Llundain, ac mae Porthladdoedd Mostyn a Lerpwl lai nag awr i ffwrdd.
“Rwy’n darparu £500,000 yn 2012-13 trwy Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ‘Taith’, er mwyn i Gyngor Sir y Fflint wella’u trafnidiaeth ymhellach i helpu Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
“Mae cael rhwydwaith teithio fel hwn yn cysylltu cwmnïau yn yr Ardal Fenter, â gweddill y wlad, Ewrop a thu hwnt.
“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn cwrdd ag Askar Sheibani heddiw a chael taith o amgylch y cyfleusterau’n Comtek i weld y gwaith maen nhw’n ei wneud ac i glywed am fanteision cael Ardal Fenter yng Nglannau Dyfrdwy.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Comtek, Askar Sheibani, sydd wedi’i benodi’n gadeirydd dros dro ar Fwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy:
“Er gwaethaf rhagolygon economaidd diflas y DU, mae Glannau Dyfrdwy yn lleoliad delfrydol i wyrdroi’r tueddiad hwn ac mae’r lleoliad eisoes wedi sefydlu’i hun fel canolfan fusnes ragorol.
“Mae gan Lannau Dyfrdwy, sy’n gartref i Bencadlys Comtek, gysylltiad band eang cyflym heb ei ail, cymuned fusnes agos iawn a digonedd o gysylltiadau trafnidiaeth.
“Mae twf wedi’i sicrhau yng Nglannau Dyfrdwy, a bydd statws newydd yr ardal fenter yn cyflymu’r twf hwn. Mae’r ardal yn darparu amgylchedd cynhyrchiol i fusnesau dyfu ac i ddenu buddsoddiadau rhyngwladol, ac o ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru byddwn yn gweld mwy o fusnesau’n creu swyddi yn yr ardal – ar gyfer cenhedlaeth heddiw a’r dyfodol.”
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Menter Cymru trwy fynd i: www.ardaloeddmenter.cymru.gov.uk











