Mae’r Bil hwn yn un o’r ymrwymiadau allweddol ar gyfer trafnidiaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Yn ei sgil, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol gynllunio rhwydweithiau trafnidiaeth sy’n gwbl integredig.
Prif nod y Bil yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn galluogi ac yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio yng Nghymru, a hynny drwy greu llwybrau didraffig a lonydd beicio i gysylltu llefydd allweddol fel ysbytai, ysgolion a safleoedd siopa.
Wrth lansio’r Papur Gwyn ar Bont-y-Werin ym Mae Caerdydd, dywedodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Carl Sargeant:
"Mae’r Papur Gwyn ar gyfer y Bil Teithio Llesol yn cyflwyno cynllun uchelgeisiol a radical i greu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cerdded a beicio yng Nghymru.
"Rwy’n gweld y Bil hwn yn gam arwyddocaol yn y gwaith o ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol gynaliadwy yng Nghymru. Mae’r Bil yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drafnidiaeth werdd.
"Yn ogystal â’r manteision iechyd amlwg sydd i gerdded a beicio, bydd y Bil hwn yn helpu i wella diogelwch beicwyr a cherddwyr, yn lleihau nwyon tŷ gwydr ac yn lleihau tagfeydd yn ein trefi a’n dinasoedd.
"Rydyn ni am wneud yn siŵr mai cerdded a beicio yw’r ffordd fwyaf naturiol a normal o wneud teithiau dyddiol byr. Rwy’n annog pobl i leisio eu barn a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn."
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r llwybrau sydd ar gael yn barod i gerdded a beicio yng Nghymru, mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol Cymru gymryd y camau canlynol:
- dynodi a mapio’r rhwydweithiau o lwybrau yn eu hardaloedd sy’n ddiogel ac yn addas ar gyfer cerdded a beicio:
- dynodi a mapio’r gwelliannau y byddai angen eu gwneud i greu rhwydwaith cwbl integredig ar gyfer cerdded a beicio, a llunio rhestr o gynlluniau a fyddai’n cael blaenoriaeth er mwyn llunio’r rhwydwaith;
- creu gwell rhwydwaith, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael a chan ddilyn y drefn briodol;
- ystyried y potensial i wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio wrth ddatblygu cynlluniau ffyrdd newydd.
Meddai Lee Waters, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru:
"Mae mwy na hanner yr holl deithiau mewn ceir yn llai na phum milltir, ac mae un o bob pump yn llai na dwy filltir. Byddai’n hawdd teithio’r pellteroedd byr hyn ar droed neu ar gefn beic.
"Rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd yn ei chael yn anodd fforddio cadw car, ac mae pris petrol yn debygol o godi hyd yn oed yn uwch.
"Bydd y Bil hwn yn rhoi dewis llawer rhatach i bobl Cymru na defnyddio’r car, a bydd yn gwneud yn siŵr bod cerdded a beicio yn dod yn ddewis diogel a deniadol ar gyfer mwy o’n siwrneiau dyddiol."
Gyda’r Gweinidog wrth iddo lansio’r Bil ar Bont-y-Werin bydd bachgen saith oed, Steffan Rayment.
Pan oedd yn ddwyflwydd, aeth Steffan gyda’i dad i gyflwyno deiseb i’r Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn galw am wella llwybrau beicio a cherdded ledled Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad ar y Bil yn agored am dri mis, a daw i ben ar 14 Awst.











