Tarodd llong yr MV Carrier y creigiau ger Llanddulas mewn tywydd garw ym mis Ebrill. Wedi hynny, fe wnaed gwaith achub ac adfer ar y safle.
Croesawodd y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant y newyddion bod y gwaith i symud y llong wedi’i gwblhau ynghynt na’r disgwyl. Bydd y llwybr beiciau ar agor erbyn canol dydd heddiw.
Dywedodd y Gweinidog:
“Fe hoffwn dalu teyrnged i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith adfer. Y blaenoriaethau oedd gwneud yn siŵr bod cyn lleied â phosibl o niwed yn cael ei wneud i’r amgylchedd a diogelu’r cyhoedd. Roedd yn rhaid cau’r llwybr beiciau er mwyn cwblhau’r gwaith.
“Fe hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol ac i ymwelwyr am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen ac rwy’n siŵr y byddant hefyd yn croesawu’r newyddion bod y llwybr beiciau ar agor erbyn hyn gan fod y gwaith adfer wedi’i gwblhau yn ddiogel ac yn llwyddiannus.”
Bydd y cyfyngiadau cyflymder dros dro a gyflwynwyd yn dilyn y digwyddiad hwn hefyd yn cael eu codi amser cinio ddydd Gwener.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â phencadlys Heddlu Gogledd Cymru yr wythnos nesaf er mwyn cwrdd â’r rhai oedd yn rhan o’r gwaith achub ac adfer a diolch iddynt am eu gwaith.











