Mae’r cyn Warchodfilwr Cymreig - a oroesodd nid yn unig yr ymosodiad ar y Sir Galahad yn ystod Rhyfel y Falklands, ond sydd wedi gweithio’n galed i ailddiffinio ei fywyd o ganlyniad i hynny - yn gweithio tuag at unioni’r sefyllfa hon, yn unol â’r natur benderfynol sy’n nodweddiadol ohono.
Mae Simon yn un o grŵp dethol o enwogion sy’n dysgu Cymraeg a ddewiswyd i hyrwyddo Ymgyrch Cymraeg i Oedolion ‘We’ll Bring out the Cymraeg in you’.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Sgiliau, John Griffiths, sydd yntau’n dysgu Cymraeg, ei fod wrth ei fodd bod Simon Weston yn cefnogi’r ymgyrch.
Meddai Mr Griffiths:
Nid oes amser gwell wedi bod erioed i ddechrau dysgu Cymraeg, am fod cymaint o wahanol ffyrdd i gychwyn arni.
Rwyf innau’n dysgu Cymraeg, ac mae’n gyffrous ac yn ddefnyddiol iawn.
Er hyn, mae Simon, sy’n hanu o Nelson ac sydd bellach yn 46 mlwydd oed, yn dweud efallai ei fod wedi dewis y flwyddyn anghywir i ddechrau ar ei ymgais i ddysgu Cymraeg, gan ei fod wedi treulio’r rhan fwyaf o’r chwe mis diwethaf yn
chwarae rôl flaenllaw yn y dathliadau i nodi 25 mlynedd ers rhyfel y Falklands.
Ond mae’r saib yn ei broses ddysgu wedi ei wneud yn fwy penderfynol byth i gael dealltwriaeth sylfaenol o leiaf ar ei iaith gynhenid.
Meddai
Mae wedi bod bron yn amhosibl i mi yn ystod y misoedd diwethaf, ond rwy’n mynd i geisio cael cyfnod o ddysgu dwys yn ystod yr amser rhydd a fydd gennyf maes o law.
Penderfynodd Simon ddysgu Cymraeg am ei fod yn teimlo ‘allan ohoni’ pan fyddai gyda theulu a ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.
Rwyf wedi bod eisiau gallu siarad iaith fy ngwlad erioed. Rwy’n teimlo fel Cymro ffug gan fy mod yn methu â siarad yr iaith.
Gyda chymorth gan ymgyrch Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n cael ei fentora wrth ddysgu gan un o arwyr eraill Cymru – sef y seren rygbi Ray Gravell – ac mae ei ymrwymiad ef i’r achos drwy raglen Big Welsh Challenge y BBC wedi sicrhau bod Simon yn parhau’n benderfynol i lwyddo.
Cwtogwyd ar amser y ddau gyda’i gilydd pan gollodd Ray ran o’i goes yn ystod y gwanwyn. Ond daeth ei ffrind, Eifion Price, i gymryd yr awenau am gyfnod ac mae disgwyl i Simon ymuno â ‘Grav’ unwaith eto yn y dyfodol agos.
Mae e’n cadw’n dda ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â’r dysgu gyda mi.
Yn ôl Simon, ei uchelgais yw gallu deall yr iaith a dweud ychydig o frawddegau sylfaenol, ac nid yw’n cymryd y dasg ormod o ddifrif, ond nid yw’n bwriadu rhoi’r ffidil yn y to chwaith.
Nid oes gennyf amserlen uchelgeisiol, ond byddwn yn hoffi gallu siarad ychydig o Gymraeg yng ngwŷdd eraill. Rwy’n credu mai bod yn foesgar yw gallu cynnal rhan o’ch sgwrs yn Gymraeg wrth sgwrsio â siaradwyr Cymraeg.
Mae’r Ymgyrch Cymraeg i Oedolion yn cael ei hyrwyddo gan ddysgwyr enwog megis Simon Weston, Derek Brockway a Colin Charvis, sydd hefyd yn ymddangos ar raglen Big Welsh Challenge y BBC.
Mae’r Ymgyrch Cymraeg i Oedolion yn amlygu manteision dysgu Cymraeg o safbwynt uchelgais personol, diwylliant, gwaith a theulu.
Mae rhyw 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg bob blwyddyn a nod yr ymgyrch gyfredol yw cynyddu nifer yr unigolion sy’n dysgu Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth o strwythur a brand newydd Cymraeg i Oedolion.
Dyma’r ymgyrch genedlaethol fwyaf erioed i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion a’r gyntaf i gael ei lansio ers sefydlu’r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion bwrpasol a grëwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac a sefydlwyd yn unol â’r ymrwymiad a wnaed yn Iaith Pawb (2003), sef Strategaeth ddwyieithog Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi, cysylltwch ag un o’r canolfannau iaith a restrir ar wefan Cymraeg i Oedolion www.welshforadults.org neu ffoniwch 0800 100 900 yn rhad ac am ddim.
Mae Podcast sydd yma
(MP3- 953Kb)











