Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn dweud y bydd “y strategaeth adfywio yn cynnal y Gymraeg”

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, wedi addo y bydd strategaeth adfywio Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r Gymraeg.
Dydd Mercher 06 Awst 2008

Wrth annerch dadl a drefnwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, 6 Awst) cyhoeddodd becyn ariannol gwerth £1 miliwn ar gyfer ystod o brosiectau peilot er mwyn rhoi cychwyn ar y broses.

Mae’r prosiectau peilot yn cynnwys y canlynol:

£400,000 yn Nant Gwrtheyrn i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu ymhellach y prif gyfleuster preswyl ar gyfer dysgu Cymraeg,  gan gyfrannu rhagor i’r gwaith ehangach o adfywio Pen Llyn;

 

Pen Llyn – cefnogi prosiect adfywio sy’n cysylltu’r gwaith o ddarparu cyfleoedd gwaith â thai fforddiadwy gan weithio ar y cyd â chymdeithas dai leol, sef Cymdeithas Tai Eryri;

 

Blaenau Ffestiniog - Gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu ymhellach y modd unigryw y gall yr iaith gyfrannu i’r gwaith o gefnogi gobeithion y gymuned o ran datblygiad economaidd.

 

Peblig, sef ardal o Gaernarfon - annog pobl leol i ystyried eu sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad wrth chwilio am waith. Caiff prosiect newydd y Broceriaid Iaith ei gysylltu â’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen Paru Swyddi sy’n helpu pobl sydd wedi bod yn economaidd anweithgar am beth amser i fynd yn ôl i waith, yn raddol yn ardaloedd Môn a Menai. Bydd y prosiect Broceriaid Iaith/Paru Swyddi yn ategu’r gwaith a wneir eisoes gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn ardaloedd Môn a Menai.

Bydd Mr Andrews hefyd yn cyhoeddi pecyn ariannu tair blynedd pellach ar gyfer prosiectau gwledig Cymunedau yn Gyntaf gan gynnwys tri mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf, sef Pen Llyn, pentrefi ucheldir Tregaron, a Bro Ddyfi.

Meddai Mr Andrews:

Rydym wedi bod yn diwygio’r modd yr ydym yn mynd ati i adfywio er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi atebion lleol i broblemau lleol gan ddefnyddio timau sydd â gwybodaeth leol o blith y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector.

 

Un o’n hamcanion yw sicrhau bod i fuddsoddiad adfywio ran yn y gwaith o gadarnhau’r iaith yn y lleoliadau sy'n strategol bwysig iddi. Rydym hefyd yn holi pa fath o brosiect adfywio yn yr ardal hon a fyddai’n cael yr effaith fwyaf o safbwynt ieithyddol – sef un wrth wneud cymunedau yn fwy cynaliadadwy yn economaidd neu yn amgylcheddol, sydd hefyd yn helpu i gynnal yr iaith.

Wrth feithrin dull newydd o fynd ati i adfywio byddwn yn defnyddio prosiectau peilot er mwyn cynnal ymyriadau cynnar – sef prosiectau a fydd yn gymorth i lunio ein hagenda ehangach o ran adfywio.

Wrth sylwi ar y cyhoeddiad hwn, meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones,

 

Mae hon yn ffordd llawn dychymyg o fynd ati i adfywio sy’n cyfuno diwylliant, iaith a thai, ac rwy’n ei chroesawu. Os bydd y prosiectau hyn yn llwyddo gallan nhw chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal hyder y cymunedau sy’n gysylltiedig â nhw.

 

Wrth lunio’r prosiectau adfywio hyn sy’n canolbwyntio ar yr iaith, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i feithrin yr arferion gorau a chydblethu prosiectau iaith a phrosiectau adfywio’n well.

 

Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, yn croesawu’r prosiectau peilot, gan ychwanegu:

Mae’r berthynas rhwng yr iaith ac adfywio economaidd yn un allweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn croesawu prosiectau peilot Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth a phobl leol wrth weithredu’r cynllun. Y gobaith yw y bydd modd estyn y datblygiad i ardaloedd eraill maes o law.

Bydd Mr Andrews yn datgelu mwy o fanylion am y cynlluniau hyn mewn cynhadledd ar adfywio a drefnir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref.

 

August 6 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon

Tagiau

Y Gymraeg 06 Awst 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i