Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arian yn cael ei gyhoeddi ar gyfer sefydliadau sy’n cefnogi’r iaith Gymraeg

Heddiw, fe gyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones fanylion am arian i dri sefydliad sydd yn chwarae rol allweddol wrth hybu defnydd o’r Iaith Gymraeg.
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2009

Fe fydd £100,000  ychwanegol ar gael ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol  yn ystod y flwyddyn ariannol  2009-10 yn unig.  Mae hyn yn adlewyrchu y trafferthion sydd yn gwynebu’r Eisteddfod wrth godi arian mewn ardal wledig fel Sir Feirionydd.  Mae hyn yn ychwanegol i’r £485,722  mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn derbyn trwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Fe fydd yr Urdd yn derbyn £677,029 oddi wrth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  Fe fydd Eisteddfod yr Urdd hefyd yn derbyn £150,000 yn ychwangol trwy’r cytundeb a wnaed gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn mis Hydref 2008.  Fe fydd  Mudiad Ysgolion Meithrin yn derbyn  £1.14 miliwn oddi wrth Bwrdd yr Iaith ar gyfer gweithgareddau yn ystod 2009-2010.  

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth:

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn chwarae rôl allweddol ag amhrisiadwy yn hybu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Yr wyf yn falch o allu gwneud y cyhoeddiad yma heddiw o gefnogaeth ariannol ychwanegol i’r Eisteddfod.  Mae yn amlwg pe na bai Llywodraeth y Cynulliad yn darparu’r arian ychwanegol eleni , fe fyddai Eisteddfod  2009 yn gwynebu anhawsterau ariannol difrifol ac fe fyddai nifer o weithgareddau craidd yr Eisteddfod yn cael eu dileu.   Bydd y cyhoeddiad yma yn rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer digwyddiad eleni.   Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r Eisteddfod yn 2009.

Yn ogystal â darparu cyfleoedd i blant, pobl ifanc ag oedolion fwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r tri sefydliad yn gyfrifol am ddod a miloedd o blant ac oedolion i gyswllt uniongyrchol  a’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf, p’un ai trwy wersylloedd neu lwyfan Eisteddfod  yr Urdd,, mynd a’u plant i gylch meithrin, neu ymweld  a maes  yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu  hardal.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr  Eisteddfod:

Rydym yn falch iawn gyda’r arian ychwanegol sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth y Cynulliad, fe fydd hyn yn golygu y gallwn barhau gyda’r paratoadau ar gyfer 2009 gydag egni newydd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws: 

Pleser i ni bob blwyddyn yw rhannu grantiau i’r sefydliadau pwysig hynny sy’n cynnal yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Rydym yn croesawu’n arbennig eleni ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i’r amgylchiadau anodd a oedd yn wynebu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, ac rydym yn hyderus y bydd y swm ychwanegol yn mynd ymhell o ran cyfrannu at greu Eisteddfod lwyddiannus a hwyliog.

10 Mawrth 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gymraeg

Tagiau

Y Gymraeg 10 Mawrth 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i