Mae disgwyl i tua 15,000 o gystadleuwyr o dros Gymru gyfan deithio i Fae Caerdydd yr wythnos hon i gymryd rhan mewn 450 o gystadleuthau ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd â nifer o weithgareddau eraill.
Meddai’r Gweinidog, a fydd yn ymweld ag un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop heddiw [26 Mai]:
“Mae’r Urdd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ar draws Cymru i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, i gyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Heddiw, er engrhaifft, fe fydda i’n cwrdd â phobl ifanc sydd yn datblygu eu sgiliau technegol drwy baratoi podlediadau drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai sy’n cymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon – o golff i bêl-fasged i ddringo a chanwïo!
“Ynghyd â chael y cyfle i arddangos eu sgiliau cerddorol ac actio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol, mae pobl ifanc yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, cyfleoedd gwirfoddoli dramor a threulio amser yn un o ganolfannau preswyl y mudiad ar draws Cymru.
“Mae rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru, fel Bryn Terfel, Ioan Gruffudd a Connie Fisher, wedi cael cyfle i ddatblygu eu talentau canu ac actio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd. Mae hyn yn ysbrydoliaeth mawr i’r nifer fawr o gystadleuwyr a fydd yn ymddangos ar lwyfan Donald Gordon drwy gydol yr wythnos. Mae’r Urdd hefyd yn cynnig cyfle i arlunwyr y dyfodol i arddangos eu gwaith – bydd gwaith y cystadleuthau celf, crefft a thechnoleg i’w gweld yn adeilad y Senedd yr wythnos hon.”
Yn gynharach eleni fe roddodd Llywdoraeth Cynulliad Cymru £150,000 ychwanegol i’r Urdd i gyfateb â chytundeb Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru i gefnogi’r Eisteddfod o 2009 ymlaen. Mae’r Urdd hefyd yn derbyn £677,029 oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Maeddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards (Gwynedd), llefarydd CLlLC ar Faterion Diwylliannol:
“Mae’r arian hwn yn bwysig i ddarparu pecyn o arian sefydlog a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bwriad y pecyn yw i leihau yn sylweddol y baich ariannol blynyddol ar yr awdurdod lleol sy’n croesawu’r eisteddfod ar gyfnod pan mae pwysau mawr ar arian cyhoeddus, ynghyd â darparu cyfleoedd pwysig diwylliannol ac addysgiadol er budd pobl ifanc ar draws Cymru.”
26 Mai 2009











