Bydd y strategaeth yn llywio'r camau y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i hybu a diogelu'r Gymraeg. Bydd yn manteisio ar y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yr iaith Gymraeg, a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar yr iaith am y tro cyntaf.
Mae'r Gorchymyn ar fin cyrraedd camau olaf ei daith, wedi iddo gael ei osod yn y Cynulliad ar 20 Hydref, cyn y ddadl ar 3 Tachwedd.
Meddai'r Gweinidog Treftadaeth:
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn am bwerau i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu er mwyn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a'r Saesneg, sicrhau hawliau ieithyddol wrth dderbyn gwasanaethau a sefydlu swydd y Comisiynydd Iaith.
"Serch hynny, dim ond un rhan o'r jig-so yw gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gael cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes. Wythnos diwethaf, lansiwyd y broses ymgynghori ar y strategaeth iaith newydd a fydd yn olynu Iaith Pawb.
"Roedd Iaith Pawb yn gam pwysig yn hanes y Gymraeg - y strategaeth genedlaethol gyntaf ar y Gymraeg gan unrhyw lywodraeth. Ond mae dros chwe mlynedd wedi mynd ers iddi gael ei lansio ac mae byd y Gymraeg wedi newid yn sylweddol ers hynny.
"Felly mae'n bryd edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud i hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith. Hoffwn wahodd pawb i gael dweud eu dweud am yr elfennau eraill sy'n bwysig i bolisi iaith, er mwyn cyfrannu at y broses o ddatblygu strategaeth newydd."
Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â phob math o faterion:
- defnyddio'r Gymraeg yn y teulu
- annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg
- defnyddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol
- prif ffrydio'r Gymraeg yng ngwaith cyrff cyhoeddus
- hybu'r Gymraeg yn y sector preifat a'r trydydd sector
- darllen, gwylio a gwrando ar y Gymraeg
- bod ag arfau wrth law i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg (gan gynnwys terminoleg, cyfieithu, technoleg ac ymchwil)
- marchnata'r iaith
Bydd cyfle i bobl ddweud eu dweud tan ddiwedd mis Ionawr 2010.
20 Hydref 2009











