Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Eisiau gwybod sut bydd Mesur arfaethedig y Gymraeg yn effeithio arnoch chi?

Bydd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru i amlinellu cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Mesur ar y Gymraeg.
Dydd Iau 01 Ebrill 2010

Os ydych eisiau gwybod mwy am sut bydd y Mesur arfaethedig yn effeithio arnoch chi neu sut bydd e’n cyflawni ein hymrwymiadau ar yr iaith Gymraeg, dewch ymlaen i un o’r cyfarfodydd.

Mae’r Mesur arfaethedig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn gwireddu tri o brif ymrwymiadau Cymru'n Un: i gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau, a sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Mr Jones:

“Wrth gwrs mae yna wedi bod llawer o diddordeb yn yr Mesur pwysig yma ac rwy’n awyddus i gwrdd a gymaint o phobol a phosib i esbonio ein cynigion.”

Y cyflwynydd teledu, Angharad Mair, fydd yn llywyddu ym mhob un o’r cyfarfodydd.

Bydd y cyfarfodydd yn digwydd ar y diwrnodau ac yn y  lleoliadau canlynol:

  • 12 Ebrill – Glasdir – Canolfan Ddatblygu Conwy Wledig, Llanrwst
  • 13 Ebrill – Swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Aberystwyth
  • 14 Ebrill – Neuadd Pontyberem
  • 15 Ebrill – Clwb Rygbi Pontypridd

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 7 o’r gloch yr hwyr a’r cyfarfodydd yn dechrau am 7.30. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â cymraeg@cymru.gsi.gov.uk

1 Ebrill 2010

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Y Gymraeg 01 Ebrill 2010 Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i