Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Bydd y gwelliannau yn cryfhau Mesur y Gymraeg ymhellach

Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi gwelliannau arfaethedig i Fesur y Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad a fydd yn ei gryfhau ymhellach.
Dydd Mercher 13 Hydref 2010

Dywedodd y bydd y gwelliannau yn nodi’n eglur sut bydd y Mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg.

Bydd gwelliannau eraill yn ymdrin â rhan y cyhoedd mewn datblygu safonau ar gyfer y Gymraeg, a chydag annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg arfaethedig. Bydd y rhain yn cynnwys diffiniad clir o brif nod gwaith y Comisiynydd.

Mae gwelliant i sefydlu Cyngor Partneriaeth newydd ar gyfer y Gymraeg hefyd wedi’i gyflwyno. Bydd y Cyngor yn tynnu ynghyd sefydliadau a chanddynt fuddiant yn y Gymraeg i gynghori’r Llywodraeth ar sut i ddatblygu a darparu ei strategaeth iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Jones:

“Gyda’r gwelliannau hyn rydym yn gwneud datganiad clir sy’n cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a sut y rhoddir effaith gyfreithiol iddo.

"Rwy’n dal i gredu, os nad yn fwy nag erioed, bod y Mesur a gyflwynais yn ystod y gwanwyn yn ddeddfwriaeth synhwyrol, gadarn ac ymarferol.  Bydd y gwelliannau arfaethedig yn cryfhau’r mesur hwn ymhellach.

"Rwyf wedi gwrando ar unrhyw safbwyntiau pellach ynglŷn â’r ddeddfwriaeth bwysig hon, a byddaf yn parhau i wneud hynny wrth iddo barhau ar ei thaith trwy’r broses graffu.”

Mae’r gwelliannau sy’n ymwneud ag annibyniaeth y Comisiynydd yn cynnwys eithriadau i bŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiynydd mewn perthynas â gosod a gorfodi safonau a’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â newid cyfnod y Comisiynydd yn y swydd o uchafswm o ddau dymor 5 mlynedd i un tymor 7 mlynedd.

Yn awr, bydd Pwyllgor Deddfwriaeth rhif 2 yn ystyried y gwelliannau arfaethedig.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Y Gymraeg 13 Hydref 2010 Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i