Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Iaith Fyw: A Living Language

Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi lansio ar gyfer ymgynghoriad strategaeth ddrafft i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith ffyniannus sy'n cael ei siarad bob dydd.
Dydd Llun 13 Rhagfyr 2010

Iaith Fyw : Iaith Byw yw Strategaeth arfaethedig newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Gymraeg, a gafodd ei lansio ar gyfer ymgynghoriad yn Llanrwst heddiw (dydd Llun, 13 Rhagfyr).

Meddai Mr Jones:  

"Er gwaethaf y cyfrifiad diwethaf a oedd yn dangos bod sefyllfa'r iaith yn addawol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, mae'n dal i fod yn ansicr.

"Nod y strategaeth ddrafft yw adeiladu ar lwyddiannau Iaith Pawb a Llywodraeth Cymru'n Un i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny."

Nid yw'r strategaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun. Ynghyd â'r Mesur ar y Gymraeg a'r Strategaeth ar Addysg Cyfrwng Cymraeg a gafodd eu cymeradwyo'n ddiweddar, bydd y strategaeth hon yn helpu i wireddu gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog.

"Mae bron i bawb sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn siarad yr iaith bob dydd, ond mae angen rhagor o gyfleoedd arnyn nhw i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd," meddai Mr Jones.

"Er enghraifft, dros y ganrif ddiwethaf rydyn ni wedi colli llawer o'r gweithleoedd lle câi'r Gymraeg ei defnyddio'n naturiol. Un o heriau'r strategaeth hon fydd creu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith bob dydd eto.

"Her fawr arall fydd ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg a chreu'r cyfle iddyn nhw fagu hyder ac ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio'r iaith bob dydd.

"Dw i'n ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ei gyfraniad gwerthfawr at y gwaith o ddrafftio'r strategaeth hon, a dw i'n gobeithio y bydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu'r gwaith da y mae wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl am ein strategaeth."

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws:

"Bu'n fraint cydweithio a'r Llywodraeth ar baratoi'r Strategaeth hon, ac rwy'n falch o'r cyfle i gymryd rhan yn y lansiad heddiw.

"Mae'r strategaeth yn adeiladu ar yr ewyllys da cynyddol sydd yna tuag at yr iaith, ac mae'n gosod allan y llwybr i ni o ran sicrhau y bydd y Gymraeg yn blodeuo ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

"Mae'r Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd gweithio yn y gymuned, boed hynny yn y Gymru wledig neu yn y Gymru drefol, mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion arbennig ardaloedd arbennig."

Ymhlith prif argymhellion y strategaeth ddrafft mae:

  • Creu Ardaloedd Datblygu Iaith ar draws Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mentrau iaith a sefydliadau eraill.
  • Datblygu prosiect Trefi a Dinasoedd Dwyieithog er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith mewn lleoliadau trefol.
  • Datblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grŵp oedran 0-5 oed.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iaith Fyw Iaith Byw Ymgynghoriad ar Strategaeth Iaith Gymraeg Y Gymraeg

Tagiau

Y Gymraeg 13 Rhagfyr 2010 Addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i