Cafodd y gymeradwyaeth ei rhoi ar ôl cyfarfod y Cyfrin Gyngor ac mae'n golygu bod y Mesur, a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr, nawr yn gyfraith.
Mae’r Mesur yn cyflawni tri o ymrwymiadau Cymru’n Un trwy gadarnhau statws swyddogol yr iaith, yn darparu’r modd i sefydlu hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau a sefydlu Comisiynydd Iaith.
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:
“Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur. Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl.”
Mae’r Mesur yn
- cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg;
- creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
- creu comisiynydd Iaith Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
- sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd;
- rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
- creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effaith ei pholisïau ar y Gymraeg;
- caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.











