Mae’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ymgeiswyr a gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynghylch y penodiad.
Bydd y panel dethol yn cynnwys: Aelod Cynulliad a enwebir gan un o bwyllgorau’r Cynulliad; aelod o staff Llywodraeth Cymru; asesydd annibynnol a pherson sydd â phrofiad o hybu defnydd o'r Gymraeg a/neu iaith arall.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, mai’r nod oedd hysbysebu swydd y Comisiynydd ym mis Gorffennaf a chyhoeddi enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref.
Dywedodd Mr Andrews:
“Rwy’n awyddus i’r Comisiynydd gael ei benodi cyn gynted â phosib fel y gall gyfrannu’n fuan at y gwaith pwysig sydd i’w wneud.
“Mae’r gwaith yn cynnwys symud yn gyflym o drefn bresennol cynlluniau iaith i’r drefn newydd o safonau iaith a gyflwynir o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011."Bydd penodiad cynnar hefyd yn caniatáu i’r Comisiynydd gael cyfrannu i’r broses o sefydlu ei swyddfa - mater sydd eisoes yn destun paratoadau yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
"Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Aelodau’r Cynulliad i weld y Comisiynydd gael ei benodi cyn gynted â phosib, a’i g/chefnogi wrth iddo/iddi fynd i’r afael â’r rôl allweddol hon o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.”
Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am ddatblygu system reoleiddio newydd er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd. Bydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iaith a bydd yn gallu cynnal ymholiadau mewn i faterion yn ymwneud â’r iaith.











