Dywedodd Mr Andrews fod y ganolfan gweithgareddau awyr agored yn creu cyfleoedd penigamp i bobl ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol, gan ennyn eu hyder yn yr iaith.
Dywedodd:
“Mae llawer iawn mwy o bobl ifanc bellach yn dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol ond mae angen creu rhagor o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith y tu allan i giatiau’r ysgol.”
“Mae Gwersyll Glan-llyn wedi darparu cyfleoedd o’r fath ers dros 60 o flynyddoedd. Mae hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer pobl sy’n dysgu’r iaith.”
“O’r herwydd rydym wedi gwahodd yr Urdd i arwain â darn o waith, gan ein cynghori ynghylch anghenion a dyheadau pobl ifanc wrth i ni ddatblygu ein Strategaeth yr Iaith Gymraeg.
"Rwy’n cymryd fy nghyfrifoldeb am y Gymraeg o ddifrif ac yn benderfynol o weithredu ein strategaeth, gan sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu a bod cyfle i bobl ddefnyddio’r iaith ymhob rhan o’u bywydau. Bydd cydweithio’n agos â phartneriaid fel yr Urdd yn hollbwysig ar gyfer cyflawni hyn. ”
Cafodd y Gweinidog gyfle i weld cyfleusterau awyr agored y Ganolfan a bu’n sgwrsio â rhai disgyblion ysgol a oedd yn aros yno.
Trafododd yn ogystal ddatblygiad Strategaeth yr Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a’r modd yr oedd y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei gweithredu.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones,
“Pleser oedd cael croesawu’r Gweinidog i Glan-llyn heddiw. Roedd hi’n wych cael trafod sut y mae’r Urdd yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael sbri di-ri drwy gyfrwng y Gymraeg.”











