Prif rôl y Comisiynydd fydd:
- hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg
- monitro cydymffurfiaeth â safonau iaith
- ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru.
Bydd rhai o’r swyddogaethau mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymgymryd â nhw yn trosglwyddo i Adran Addysg a Sgiliau’r Llywodraeth o Ebrill 2012. Bydd Uned Iaith yr Adran yn rheoli rhaglen grantiau’r iaith Gymraeg a rheoli prosiectau. Bydd Uned Cymraeg mewn Addysg yr Adran yn goruchwylio’r ffordd mae awdurdodau lleol yn cynllunio addysg Gymraeg; yn ariannu’r gwasanaeth athrawon bro a Mudiad Ysgolion Meithrin.
Cymeradwywyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010. Derbyniodd y Mesur Cydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror 2011 ac mae nawr yn gyfraith.
Nod y Mesur yw cynnig mwy o eglurder a chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y gallan nhw ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg. Yn ogystal â chreu rôl y Comisiynydd, mae’r Mesur yn:
- cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg
- creu system newydd o safonau iaith i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg
- sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg
- rhoi’r hawl i unigolion a chyrff apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg
- creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effaith ei pholisïau ar y Gymraeg.
Ymddangosodd yr hysbyseb yn Golwg, y Cymro, y Western Mail a’r Daily Post, arlein yn Jobs Wales a Golwg 360 a hefyd ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais cysylltwch â Rebecca Williams ar 029 2082 6529, e-bost: rebecca.williams@wales.gsi.gov.uk
Os hoffech gysylltu ag Uned Iaith Llywodraeth Cymru, gofynnir ichi e-bostio: UnedIaithGymraegWelshLanguageUnit@cymru.gsi.gov.uk











