Cymerodd y Prif Weinidog argymhellion y panel dethol i ystyriaeth, a fu'n cyfweld nifer dda o ymgeiswyr cryf ar gyfer y swydd.
Dywedodd Mr Jones:
"Dw i'n falch iawn o gyhoeddi mai Meri Huws fydd Comisiynydd cyntaf y Gymraeg. Dw i'n hyderus y bydd yn dod ag ystod eang o brofiadau perthnasol, ynghyd â brwdfrydedd mawr, i'r rôl hon. Fe fydd hi'n eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg.
Mae'r swydd newydd hon yn hollbwysig i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru, sef sicrhau iaith Gymraeg fyw a ffyniannus."
Ar hyn o bryd, Ms Huws yw Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a dywedodd:
"Dw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mhenodi i'r rôl hynod bwysig hon. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau Cymru i ddatblygu'r system newydd o safonau.
Bydda i'n mynd ati i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu."
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, Sgiliau a'r Gymraeg:
"Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda Ms Huws yn y dyfodol. Gan ein bod wedi gallu penodi mor gynnar â hyn, fe all hi gyfrannu at y gwaith pwysig sydd o'n blaenau a'n helpu ni gynllunio ar gyfer datblygu swyddfa'r Comisiynydd. Mae trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynghylch hynny."
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu system newydd o reoleiddio, a fydd yn seiliedig ar safonau, er mwyn darparu gwasanaethau iaith Gymraeg i'r cyhoedd. Bydd y Comisiynydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar y polisi iaith a bydd yn medru ymchwilio i amryw o faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Bywgraffiad
- Ganwyd Meri Huws yng Nghaerfyrddin a chafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Uwchradd Abergwaun. Wedi hynny bu'n astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a threuliodd gyfnod hefyd ym Mhrifysgol Rhydychen.
- Wedi dychwelyd i Gymru, bu'n weithiwr cymdeithasol yn ardal Sgubor Goch, ger Caernarfon, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, rhwng 1981 a 1983.
- O Gaernarfon aeth Meri Huws i Fangor yn ddarlithydd yn y Coleg Normal yn 1984, ac i Brifysgol Casnewydd rhwng 1989 ac 1997 cyn symud i weithio yn y Swyddfa Academaidd ym Mhrifysgol Dinas Dulyn tan 1999. Yna cafodd ei phenodi yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Hi yw Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers 2004, a chyn hynny roedd hi'n aelod o'r Bwrdd rhwng 1993 ac 1997. Ers mis Awst 2009, Meri Huws yw Dirprwy Is-Ganghellor [Arloesedd, Cymuned a Sgiliau] Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.











