Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi derbyn ei hymddiswyddiad o 1 Chwefror y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn ei galluogi i ymgymryd â rôl y darpar Gomisiynydd ac i baratoi ar gyfer sefydlu ei swyddfa newydd. Daw swydd newydd Comisiynydd y Gymraeg i rym ar 1 Ebrill, 2012.
Bydd Marc Phillips, sydd wedi bod yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ers blynyddoedd lawer, yn ymgymryd â swydd Cadeirydd dros dro Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2012.
Dywedodd Mr Andrews:
“Hoffwn ddiolch i Meri Huws am ei gwaith fel Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac rwy’n falch iawn y bydd yn dechrau ar ei gwaith fel y Comisiynydd newydd yn gynnar. Gall hi ddechrau cyfrannu at y gwaith pwysig sydd o’i blaen a’n helpu â gweddill y gwaith o sefydlu ei swyddfa.
"Rwy’ hefyd yn falch y bydd Marc Phillips, sy’n aelod profiadol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ers sawl blwyddyn, yn camu i mewn fel Cadeirydd dros dro yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd Mr Phillips yn cynnig arweiniad ar adeg o newid, a bydd yn sicrhau bod holl weithgareddau’r Bwrdd yn cael eu dirwyn i ben mewn modd priodol.”
Dywedodd Ms Huws:
“Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith hollbwysig hwn ym mis Chwefror - ac at gyfrannu rhagor wrth i’r swyddfa gael ei sefydlu. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru ac â sefydliadau eraill yng Nghymru, a thu hwnt, er mwyn datblygu’r system newydd o safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.
“Rwy’n bwriadu datblygu’r gwaith da sydd eisoes wedi’i gyflawni gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn atgyfnerthu’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.”
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu system reoleiddio, sy’n seiliedig ar safonau yn ymwneud â’r Gymraeg, er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd. Bydd y Comisiynydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch polisi iaith a bydd yn gallu ymchwilio i faterion amrywiol iawn sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.











