Yn ogystal, bydd Uned Iaith estynedig yn cael ei greu o fewn y Llywodraeth a fydd yn gallu gweithio’n greadigol efo nifer helaeth o bartneriaid, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd i dderbyn Cymeradwyaeth Brenhinol ar 9 Chwefror, yn darparu ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a throsglwyddo ei swyddogaethau i’r Comisiynydd neu, o ran swyddogaethau i hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, i’r Comisiynydd Iaith a/neu i Weinidogion Cymru.
Fe fydd y Gweinidog hefyd, trwy’r Mesur Iaith, yn sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn cynghori’r Llywodraeth ar ei strategaeth iaith.
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Bwrdd am ei gyfraniad arloesol dros y blynyddoedd, ac edrychaf ymlaen at weld ei waith yn parhau hyd nes y sefydlir swyddfa’r Comisiynydd.
“Wrth edrych i’r dyfodol, rhaid cydnabod bod y dirwedd gyfansoddiadol wedi ei drawsnewid ers sefydlu’r Bwrdd yn 1993. Mae nawr gennym Gynulliad a Llywodraeth Genedlaethol, Mesur Iaith bellgyrhaeddol, strategaeth iaith newydd i’w gyhoeddi’n fuan, yn dilyn ymgynghoriad - ac rydym wrthi’n gwireddu ein strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y Comisiynydd Iaith yn rhan allweddol o’r dirwedd newydd, gyda’r cyfrifoldeb am ddatblygu a rheoleiddio system newydd er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
“Wrth fynd i’r afael a’r newidiadau hyn, ac ystyried y ffordd ymlaen, rwyf wedi fy nhywys gan yr angen i sefydlu dyletswyddau clir i’r cyrff a fydd yn gyfrifol am y gwaith hollbwysig yma, gan osgoi’r posibilrwydd o wrthdaro rhwng y gwaith rheoleiddio fydd angen ei wneud – a’r gwaith o weithio mewn partneriaeth efo nifer helaeth o gyrff er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau cymunedol. Rwyf hefyd am sicrhau, hyd y gallaf, y bydd gan y Comisiynydd a’r Uned Iaith Gymraeg newydd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r agenda pwysig mae’r Llywodraeth wedi’i osod.
“Gyda’r newidiadau hyn, fe fydd y cyfrifoldeb am gynllunio ieithyddol, ac am hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg, yn gorwedd yn nwylo Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg ac eraill, a nifer helaeth o gyrff, megis yr Urdd a’r mentrau iaith, sy’n gweithio’n ddiflino er lles y Gymraeg. Fe fydd y Mesur Iaith newydd hefyd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. “
Rôl y Comisiynydd bydd i:
- Ganolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan gynnwys datblygu a gosod safonau, ffurfio codau ymarfer a sefydlu'r drefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu’r system cynlluniau iaith yn y cyfamser;
- fonitro perfformiad cyrff yn unol â dyletswyddau wedi eu gosod arnynt
- ymdrin â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â methiant i gydymffurfio â safonau;
- gynghori a hybu arfer da ymysg cyrff preifat a chyrff y trydydd sector sy’n cwympo y tu allan i sgôp dyletswyddau statudol o dan y Mesur Iaith;
- darparu ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ar sefyllfa’r Gymraeg a chynnal ymchwiliadau i unrhyw faes o ddiddordeb i’r Gymraeg a chynnal ymholiadau mewn i unrhyw fater o ddiddordeb yn ymwneud â’r iaith;
- gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill ar bolisi iaith a materion cysylltiedig trwy ddatblygu a dadansoddi ymchwil ac ystadegau;
- graffu yn annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a darparu sylwadau ar ddogfennau ymgynghori;
- ddatblygu isadeiledd i gynorthwyo eraill gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg (e.e. mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu);
- ymdrin â cheisiadau mewn perthynas ag ymyrraeth honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.
Rôl yr Uned Iaith fydd i:
- Reoli rhaglen grantiau’r iaith Gymraeg (gan gynnwys grantiau i’r Eisteddfod Genedlaethol a’r mentrau iaith);
- reoli prosiectau gan gynnwys y rheini sydd wedi eu crybwyll yn y strategaeth iaith drafft (e.e. prosiect Twf);
- ddarparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, fydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyngor ar ein strategaeth iaith - a’r cynllun i’w wireddu;
- gynrychioli Llywodraeth y Cynulliad ar rwydweithiau rhyngwladol a’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig;
- weinyddu’r broses paratoi is-ddeddfwriaeth a allai gynnwys deddfwriaeth sy’n cynnwys safonau wedi eu hargymell gan y Comisiynydd, yn unol â’r Mesur Iaith;
- aros yn gyfrifol am waith yr Uned Iaith bresennol, gan gynnwys darparu cyngor i Weinidogion Cymru ac arwain y gwaith o ddatblygu gallu Llywodraeth y Cynulliad i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd cyfrifoldebau’r Bwrdd yng nghyswllt goruchwylio cynllunio addysg Gymraeg gan awdurdodau lleol, ariannu’r gwasanaeth athrawon bro a Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael eu trosglwyddo i Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad.











