Dywedodd "Dyma ddiwrnod arwyddocaol iawn i ddyfodol y Gymraeg.
“Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau bod yr iaith yn parhau'n iaith egnïol a ffyniannus. Bydd hi'n hyrwyddwr cadarn ac egnïol dros y Gymraeg - ac yn cydweithio â sefydliadau er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg. Bydd hefyd yn creu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd.”
Ar y diwrnod y bydd nifer o gyfrifoldebau am hybu'r Gymraeg yn trosglwyddo o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru, cadarnhaodd Mr Andrews ei ymrwymiad i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ddatblygu.
Dywedodd:
“Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Bwrdd am ei waith caled a'i gyfraniad arloesol dros y blynyddoedd. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y gwaith hwnnw, gan ddatblygu'r iaith ymhellach. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn cyfrifoldeb am hybu'r defnydd o'r iaith.
“Bydd ein His-adran y Gymraeg ar ei gwedd newydd yn cydweithio â nifer fawr o bartneriaid mewn modd creadigol a rhagweithiol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu."
O dan y trefniadau newydd a ddaw i rym heddiw, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn:
- canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan ddatblygu a gosod safonau, datblygu codau ymarfer a sefydlu trefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu system y cynlluniau iaith Gymraeg yn y cyfamser.
- monitro perfformiad cyrff yn unol â'r dyletswyddau sydd arnynt.
- ymdrin â chwynion oddi wrth aelodau'r cyhoedd ynghylch unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau.
- cynghori sefydliadau preifat a sefydliadau'r trydydd sector nad yw'r dyletswyddau statudol a bennir ym Mesur y Gymraeg yn berthnasol iddynt ynghylch arferion da a hybu'r arferion da hynny.
- darparu sylfaen o ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ynghylch sefyllfa'r Gymraeg ac ymchwilio i unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r iaith.
- cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion polisi a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg.
- craffu'n annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ac ymateb i ddogfennau ymgynghori.
- datblygu'r seilwaith er mwyn helpu pobl eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg (ee mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu).
- ymdrin â cheisiadau ynghylch ymyriadau honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd.
Bydd Llywodraeth Cymru, drwy ei His-adran newydd ar gyfer y Gymraeg, yn:
- rheoli'r rhaglen grantiau Cymraeg (sy'n cynnwys grantiau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Mentrau Iaith)
- rheoli prosiectau sy'n cefnogi'r iaith, gan gynnwys y rhai a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg (ee prosiect Twf)
- gweinyddu'r broses o baratoi is-ddeddfwriaeth a fydd yn cynnwys deddfwriaeth ynghylch safonau iaith a argymhellwyd gan y Comisiynydd, yn unol â Mesur y Gymraeg.
- gweithredu Strategaeth y Gymraeg.
- gweithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
- goruchwylio'r modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg
- gweinyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth Athrawon Bro, sydd bellach yn rhan o'r Grant Cymraeg mewn Addysg, a'r Mudiad Meithrin.
- cynrychioli Cymru ar rwydweithiau rhyngwladol a ffrwd waith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ynghylch ieithoedd lleiafrifol.











