Dyfarnwyd y cyllid er mwyn sicrhau y gall y Llinell Gyswllt â’r Gymraeg barhau yn ystod 2012/13. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfieithiadau am ddim o ddarnau byr o destun ar gyfer sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector. Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yn gyfrifol am ariannu’r gwasanaeth hwn ynghynt.
Dywedodd Mr Andrews:
“Rydym wedi ymrwymo i hybu’r Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu. Hoffem weld rhagor o sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector yn defnyddio’r Gymraeg a byddwn yn cynnig pob cymorth iddynt wneud hynny.
“Mae’r Llinell Gyswllt â’r Gymraeg wedi bod yn adnodd gwerthfawr iawn i fusnesau’r sector preifat a sefydliadau’r trydydd sector ar draws Cymru. Mae hyn wedi sicrhau bod rhagor o Gymraeg i’w gweld mewn gwahanol fannau ac mae wedi ennyn llawer o ewyllys da. Mae hefyd wedi annog llawer o sefydliadau i roi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Menter Môn, Gerallt Llewelyn Jones:
“Rydym yn falch iawn fod y Gweinidog wedi dyfarnu’r cyllid hwn, a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r Llinell Gyswllt â’r Gymraeg wedi cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i lawer o fusnesau a sefydliadau gwirfoddol sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg am y tro cyntaf.
“Byddwn yn mynd ati yn awr i ystyried sut y gall y gwasanaeth hwn ddechrau ariannu ei hun yn y dyfodol.”
Gall sefydliadau’r sector preifat a sefydliadau’r trydydd sector gysylltu â’r Llinell Gyswllt ar 0845 607 6070











