Yr aelodau yw: Dr Ian Rees, Mrs Virginia Isaac, Mr Gareth Jones a'r Athro Gwynedd Parry. Bydd eu penodiadau yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2015. Dr Rees yw Cadeirydd y Panel.
Penodwyd y Panel Cynghori o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Caiff y Comisiynydd ymgynghori â’r Panel mewn perthynas ag arfer ei swyddogaeth.
Dywedodd Leighton Andrews:
"Rwy'n falch iawn bod Dr Rees, Mrs Isaac, Mr Jones a'r Athro Parry wedi cytuno i fod yn aelodau o'r Panel Cynghori. Bydd gan y Panel ran bwysig i'w chwarae o ran darparu cymorth a chyngor i'r Comisiynydd.”
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:
“Cafodd aelodau’r Panel eu penodi yn dilyn proses recriwtio allanol. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gen i Banel o unigolion diddorol i droi atynt pan fyddaf angen ymgynghori ar unrhyw fater.”











