Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, wedi penderfynu ar delerau cynllun iaith Gymraeg Ofcom.
Mae wedi penderfynu ar gynllun sy’n cynnwys mesur sy’n ymwneud â’r ystyriaeth briodol y bydd angen i Ofcom ei rhoi i’r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy’n cynnwys gwasanaethau i’r cyhoedd.
Cyfeiriwyd y mater at y Gweinidog ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom fethu â chytuno ar gynllun iaith Gymraeg.
Mae’r Gweinidog wedi rhoi gwybod i Ofcom a Chomisiynydd y Gymraeg ei fod wedi arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf 1993.
Dyma’r mesur:
Byddwn ni [Ofcom] yn rhoi ystyriaeth briodol i'r defnydd o'r Gymraeg wrth gyflawni ein swyddogaethau sy'n cynnwys gwasanaethau i'r cyhoedd.
Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
paratoi a chyhoeddi ein Canllawiau Lleolrwydd, a
chyflawni ein swyddogaethau trwyddedu mewn modd sy'n sicrhau bod deunydd lleol yn cael ei gynnwys mewn darllediadau trwyddedig, gan gynnwys deunydd sydd â chynnwys ieithyddol penodol a/neu'n cael ei gyflwyno mewn modd ieithyddol penodol a hynny, lle bo angen, drwy osod amodau ar y drwydded.
Trosglwyddodd y cyfrifoldeb am gynlluniau iaith Gymraeg o’r Bwrdd i Gomisiynydd y Gymraeg ar 1 Ebrill 2012. Felly, mae penderfyniad y Gweinidog mewn perthynas â hyn wedi’i gyhoeddi wrth Ofcom a Chomisiynydd y Gymraeg.











