Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal seminar ar y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ymuno yn y drafodaeth.
Bydd cyflwyniadau ar sut mae busnesau’n defnyddio’r Gymraeg ar-lein; y Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasol; datblygu technoleg ar gyfer addysg Gymraeg; a sut mae mynd ati i annog y sector cyhoeddus i fabwysiadu’r arferion gorau, ac i ddylanwadu ar ddarparwyr meddalwedd.
Hefyd bydd cyfle i weld apps, gwefannau a rhyngwynebau digidol Cymraeg.
Bydd y seminar yn trafod pedwar cwestiwn allweddol:
- Sut mae codi ymwybyddiaeth ac annog mwy o bobl i ddefnyddio’r cynnwys digidol a’r feddalwedd Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd?
- Sut mae sicrhau bod mwy o gynnwys, nwyddau a gwasanaethau digidol ar gael yn rhwydd i siaradwyr Cymraeg, ac yn cael eu marchnata iddynt?
- Sut mae manteisio ar y datblygiadau mewn technoleg i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg?
- Sut dylai’r Llywodraeth flaenoriaethu o ran buddsoddi yn y maes hwn?
Bydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, yn rhoi anerchiad i agor y digwyddiad. Meddai Mr Andrews:
“Rhaid i ddatblygiadau newydd yn y cyfryngau a thechnoleg, a chynnwys digidol, fod ar gael yn y Gymraeg os ydym am sicrhau ei bod yn cael ei hystyried yn iaith fyw a modern.
“Fy nod yw sicrhau bod pawb yn cael elwa ar dechnoleg newydd, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg os ydyn nhw’n dymuno hynny. Mae’n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth yn harneisio’r egni a’r ymrwymiad sydd ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd.”
Mae Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn pwysleisio pa mor bwysig yw technoleg a’r cyfryngau digidol i ddyfodol yr iaith. Bydd y seminar yn clywed am brofiadau arbenigwyr sydd eisoes yn gweithio yn y maes, a bydd eu cyfraniad a’u hadborth yn helpu’r Llywodraeth i ddatblygu cynllun gweithredu.
Daw’r cynrychiolwyr, yn ddarlledwyr, cynhyrchwyr cynnwys, datblygwyr meddalwedd, ac academyddion, o lawer o wahanol sefydliadau.
I ddilyn hynt y seminar ac i gyfrannu eich syniadau, defnyddiwch hashtag #TechCY ar Twitter.











