Bydd y cwrs Cymraeg i Deuluoedd, sydd wedi’i deilwra’n arbennig, yn cael ei redeg gan Ganolfannau Cymraeg i Oedolion a chafwyd ei datblygiad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cwrs yn bennaf ar gyfer rheini a’r teulu estynedig sydd am ddysgu Cymraeg fel eu bod yn gallu rhyngweithio â’u plant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol neu’r ysgol feithrin, gyda phwyslais cadarn ar gael hwyl a mwynhau.
Mae deunyddiau ategol ar gyfer y cwrs yn cynnwys gêm fwrdd, llyfr gwaith cartref a chryno ddisg fel bod rhieni yn gallu dysgu Cymraeg gyda’u plant drwy chwarae, canu a helpu gyda gwaith cartref.
Mae’r cwrs 120 o oriau yn addas ar gyfer y rheini sydd â dim neu ychydig bach o Gymraeg a byddai gan amlaf yn cael ei ddysgu am ddwy awr yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd, ond mae fersiwn mwy dwys ar gael. Bydd y cwrs yn boblogaidd mewn ysgolion a dylai athrawon neu lywodraethwyr ysgolion gysylltu â’u Canolfan Cymraeg i Oedolion leol os oes ganddynt ddiddordeb mewn cynnal y cwrs ar gyfer rhieni yn eu hysgol.
Meddai Helen Prosser o Ganolfannau Cymraeg i Oedolion oedd yn y lansiad heddiw: “Gallu siarad Cymraeg fel eu bod yn gallu helpu eu plant i ddysgu a rhoi help llaw gyda gwaith ysgol yw’r prif reswm sy’n cael ei roi gan oedolion sydd am ddysgu Cymraeg.”
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu’n arbennig gan ystyried hynny ac mae wedi’i gynllunio gyda phwyslais ar gael hwyl a mwynhau. Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu gan CBAC a gellir ei gwblhau dros gyfnod o ddwy flynedd neu ar amserlen fwy dwys.”
Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:
“Mae Llywodraeth Cymru eisiau cefnogi pobl sydd am ddysgu’r iaith a’i defnyddio gyda’u plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae’r cwrs hwn yn cefnogi ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg drwy roi cyfleoedd i blant ddefnyddio Cymraeg yn y cartref ac mae’n cefnogi teuluoedd cyfan i ddatblygu sgil gyda’i gilydd.”
Rhoddwyd £99,374 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cwrs.
Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs Cymraeg i Deuluoedd ar gael yn eich Canolfan Cymraeg i Oedolion leol neu yn www.welshforadults.org











