Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC)
Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn cefnogi ac yn helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar reolwyr ac arweinwyr ar draws gwasanaeth cyhoeddus Cymru i gydweithio, ar draws ffiniau traddodiadol.
Rydym yn cynnig cyfleoedd amrywiol i ddatblygu pobl, sefydliadau a systemau yn y pen draw er mwyn creu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy unedig ar gyfer pobl Cymru. Yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael ar y wefan hon mae gennym ein Rhaglen ar gyfer Dysgu sy’n cynnwys amryw o gyfleoedd dysgu ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru a phawb sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am RhNgCC cysylltwch â psmw@wales.gsi.gov.uk, neu dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales.
