Skip to content

Hyfforddi a Mentora

Rheoli Yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Hyfforddi a Mentora

Logo

Dros y blynyddoedd nesaf bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu newidiadau sylweddol er mwyn trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi, ac yn aml o dan amgylchiadau anodd. Bydd arweinwyr a rheolwyr yn chwarae rhan ganolog er mwyn datblygu a darparu gwasanaethau di-dor, effeithlon, cynhwysol ac sy'n ymateb i anghenion y cyhoedd.

Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC) yn ceisio cefnogi'r gwaith o ddatblygu arweiniad a reolaeth drwy greu agwedd integredig tuag at hyfforddi a mentora ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru lle y mae:

  • Arweinwyr a reolwyr yn dysgu oddi wrth ei gilydd wrth iddynt hyfforddi a mentora neu gael eu hyfforddi neu eu mentora
  • Arweinyddiaeth ac arbenigedd yn cael eu defnyddio a'u cydnabod y tu hwnt i'r hierarchiaeth reoli traddodiadol 
  • Pobl yn dysgu beth y mae angen iddynt ei ddysgu, a hynny gan y person sydd â'r cymwysterau gorau i hwyluso'r dysgu, a bod y dysgu nid yn unig yn cynnwys datblygiad yr unigolyn ond hefyd berthynas yr unigolyn ag eraill er mwyn galluogi i newidiadau  ddigwydd ar lefel ehangach.

Gall hyfforddi a mentora fod yn effeithiol iawn o ran cefnogi datblygiad personol, gwella perfformiad, helpu i ryddhau potensial unigolion a thimau a sicrhau manteision i'r unigolyn a'r sefydliad.