Skip to content

Polisi preifatrwydd

Rheoli Yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Polisi preifatrwydd

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yn ddefnyddiwr anhysbys o'r wefan, nid yw safle Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch ond, yn hytrach, yn cofnodi eich cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan serfiwr y we. Fe'i gelwir yn 'ffeil cofnodi' ac rydym yn ei defnyddio i gasglu ynghyd ystadegau sy'n ymwneud â defnyddio'r wefan. Nid yw'r wefan hon yn defnyddio 'cookies' i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr. Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth y rheini sy'n ymweld â'r wefan hon: adborth; a manylion cofrestru ar gyfer e-bost.

Adborth

Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg.  Nid ydym yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad, rydym yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Tanysgrifio ar gyfer negeseuon e-bost

Mae rhai rhannau o’r wefan hon yn cynnig diweddariadau drwy’r e-bost. I dderbyn yr wybodaeth hon, bydd angen i chi gofrestru gan nodi eich cyfeiriad e-bost; enw defnyddiwr a chyfrinair. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth a ddarperir gennych â thrydydd partïon, ac rydym yn diogelu’r wybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Y Ddeddf Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio’r technolegau a’r feddalwedd amgryptio diweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelwch llym er mwyn sicrhau na cheir mynediad ato heb awdurdod.
Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac i adrannau eraill y llywodraeth.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych ymholiad neu g wyn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y safle hwn, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli neu’r Dirprwy Ysgrifennydd.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.