Skip to content

Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Rheoli Yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Llun o haul

Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys dros bum diwrnod a fydd yn dwyn ynghyd arweinwyr a rheolwyr i drafod materion allweddol sydd ynghlwm â phwnc arwain penodol. 

Caiff Ysgol Haf 2012 ei chynnal rhwng 25 a 29 Mehefin yng Nghampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Thema’r ysgol haf fydd ‘Rheoli y Tu Hwnt i'r Ffin; Dull yr 21ain Ganrif ar gyfer Sicrhau Gwasanaethau Cyhoeddus o’r Radd Flaenaf’.
I wybod rhagor am yr Ysgol Haf a sut i gyflwyno cais i’w mynychu, gweler y dolenni llywio ar y chwith.

Pob blwyddyn mae’r rhaglen yn cynnwys anerchiadau allweddol oddi wrth siaradwyr dylanwadol – mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys:

  • Dr David Zinger
  • Camila Batmanghelidjh

Mae gweithdai rhyngweithiol a sesiynau grŵp wedi’u hwyluso yn rhoi cyfle i’r cynrychiolwyr bwyso a mesur yr hyn y maent wedi’i ddysgu.

I gael rhagor o wybodaeth am RhNgCC cysylltwch â Ysgol Haf GCC, neu dilynwch ni ar Twitter @PsmwOnline.