Skip to content

NAFWC19/07 - Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau A Symiau At Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

CRYNODEB

Mae'r cylchlythyr hwn:

I. Yn cyhoeddi bod y terfynau cyfalaf yn newid o £16,000 (y terfyn is) a £21,500 (y terfyn uwch) i £17,250 (y terfyn is) a £22,000 (y terfyn uwch), ac y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 9 Ebrill 2007. Mae'n atgoffa'r awdurdodau am effaith y terfynau cyfalaf diwygiedig ar y taliadau a godir am ofal cartref;

II. Yn cyhoeddi newid o ran swm y cynilion a ddiystyrir, o hyd at £5.05 yr wythnos i hyd at £5.25 yr wythnos ar gyfer preswylwyr unigol 65 oed a throsodd sy'n cael cymorth. Bydd cynnydd hefyd yn swm y cynilion a ddiystyrir ar gyfer cyplau, a hynny o hyd at £7.50 yr wythnos i hyd at £7.85 yr wythnos. Bydd y codiadau hyn hefyd yn dod i rym ar 9 Ebrill 2007;

III. Yn cyhoeddi diwygiad i'r symiau a ddiystyrir yn y rheoliadau mewn perthynas â Thaliadau Budd-dal Plant;

IV. Yn cyhoeddi y bydd Lwfans Costau Personol diwygiedig o £20.88 yr wythnos yn dod i rym ar 9 Ebrill 2007. Mae'n gymwys i bawb sydd mewn cartrefi gofal, gan gynnwys cartrefi lle rhoddir gofal nyrsio, ac sy'n cael cymorth oddi wrth awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau dros y gwasanaethau cymdeithasol (y cyfeirir atynt wedi hyn fel yr 'awdurdodau') i dalu am lety o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae'n atgoffa'r awdurdodau o ddiben y Lwfans Treuliau Personol;

V. Yn atgoffa'r awdurdodau bod y taliad wythnosol ar gyfer Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG ac y telir amdano gan y Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer preswylwyr cymwys mewn cartrefi gofal lle rhoddir gofal nyrsio wedi codi i £114.90 o 1 Ebrill 2007 ymlaen;

VI. Yn atgoffa'r awdurdodau o'r anogaeth iddynt arfer eu disgresiwn i BEIDIO â chymhwyso'r rheol perthnasau atebol, fel y nodir yn Adran 11 o'r Canllawiau;