Skip to content

NAFWC01/07 - Grant Arbennig Cronfa Datblygu Rheoli Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol 2007-2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhagarweiniad

Mae’r Cylchlythyr hwn yn tynnu sylw awdurdodau lleol at Adroddiad Grant Arbennig (Cymru) 2007 y cytunodd y Cynulliad arno ar 14 Chwefror 2007. Mae’n nodi’r Trefniadau ar gyfer Gwneud Cais a’r Amodau Talu.

Bwriadau Polisi

Diben y grant yw cefnogi’r broses o weithredu Strategaeth Rheoli Perfformiad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Hynny er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn y modd y darperir eu gwasanaethau, sy’n cael eu rheoli, eu monitro a’u mesur yn ôl egwyddorion rheoli perfformiad modern. Yn 2004, nodwyd prif elfennau'r rhaglen ar gyfer cyflawni hyn yn y ddogfen 'Hysbysu Gofal Cymdeithasol'. Fel 'Rhaglen a Chynllun Gweithredu ar gyfer Datblygu Systemau Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru', mae'n canolbwyntio ar gyfraniad systemau gwybodaeth i wella perfformiad mewn awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol a'r asiantaethau a sefydliadau sy'n bartneriaid iddynt.

Mae'n pennu'r agenda e-lywodraeth ar gyfer gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau bod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau a phenderfyniadau doeth. Mae hefyd yn adlewyrchu'r farn bod yn rhaid i'r genhedlaeth newydd o systemau gwybodaeth ym maes gofal cymdeithasol gydnabod y cysylltiadau agosach sydd bellach yn rhan annatod o drefniadau gwaith effeithiol, yn enwedig yn y gwasanaethau iechyd ac addysg. Mae’r rhaglen wedi ymrwymo i:

  • Hybu dull cydlynol o ymdrin â materion TGCh, yn enwedig y systemau gwybodaeth strategol ar gyfer gwasanaethau i blant ac oedolion;
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau rheoli perfformiad o fewn awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol;
  • Helpu i gyflwyno trefniadau rheoli gwybodaeth cyson a chynhwysfawr ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru;
  • Darparu Fforwm rheolaidd er mwyn i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol a'u partneriaid allu ystyried sut y gall gwybodaeth wella perfformiad y gwasanaethau.

Mae’r Adroddiad Grant Arbennig wedi’i nodi yn Atodiad A ac mae’n cynnwys y symiau sy’n daladwy i awdurdodau, y Blaengynllun a’r meini prawf sy’n berthnasol i’r Prif Grant, y Grant Consortiwm a Gwaith Cydweithredol a’r Elfen Ychwanegol. Mae Atodiad B yn cynnwys y trefniadau i awdurdodau wneud cais ac mae Atodiad C yn cynnwys yr Amodau Talu.