Skip to content

WAGC15/07 - Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Addysg Uwch 2007/08

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Crynodeb

Mae’r ddogfen hon yn nodi amodau’r defnydd gan Awdurdodau Lleol o grantiau a ddyrennir gan Weinidogion Cymru (“rhoddwr y grant)” ar gyfer Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad a’i weinyddu, gan gynnwys y berthynas rhwng Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.

Defnyddir y ddogfen hon i benderfynu ar gymhwysedd lle mae myfyriwr wedi dechrau dilyn cwrs addysg uwch cyn 2006/07, mae eisoes yn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad a bydd yn parhau’n gymwys hyd nes y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r rhaglen astudio arbennig honno.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid eu defnyddio wrth asesu a yw myfyrwyr yn gymwys i dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad a’r lefelau
amrywiol o grant y gellir eu dyfarnu.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r taliadau, sy’n gweithredu dan Gynllun Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer y flwyddyn academaidd 007/2008, yn cynnwys y lefelau o incwm y gellir ei asesu y mae’n rhaid eu defnyddio wrth gyfrifo.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn cofnodi yn Atodiad 2 y protocol partneriaeth sy’n nodi’r trefniadau rhwng Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch ac Awdurdodau Lleol ar gyfer gweinyddu’r cynllun. Nid yw hwn yn rhan o’r Cynllun ei hun.