Skip to content

WAGC31/07 -Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Crynodeb

Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys canllawiau statudol o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi cynllun yn amlinellu strategaeth yr awdurdod i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc berthnasol.

Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 (y ceir copi ohonynt yn atodiad 3) yn ymwneud â’r canllawiau hyn a byddant yn dod i rym ar 1 Medi 2007. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol o’r dyddiad hwn.

Yn ôl adran 26 rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau. Cefnogir y canllawiau hyn gan Gylchlythyr 35/2006 (Gorffennaf 2006), Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau a dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr. Mae’r olaf yn manylu ar y dyletswyddau
lleol i gydweithredu ymhlith gwahanol bartneriaid er mwyn gwella lles plant a phobl ifanc yn ardal pob awdurdod lleol.

Mae adran 1 yn amlinellu sylfeini’r Cynllun a geir yng nghyd-destun Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ynghyd â’r egwyddorion y mae wedi eu seilio arnynt, ei ddiben a’r cysylltiad rhyngddo a chynlluniau eraill.

Yn adran 2 amlinellir y camau ar gyfer datblygu’r Cynllun yn fanwl. Mae adran 3 yn ymdrin â chynnwys y Cynllun.

Yn adrannau 4 i 10 disgrifir strwythur y Cynllun mewn perthynas â’r 7 Nod Craidd a’r disgrifiad sydd ei angen mewn cysylltiad â phob Nod craidd, gan gynnwys templedi sy’n ategu’r disgrifiad naratif trwy grynhoi mesurau a thargedau.

Nodir yn adran 11 sut yr ymdrinnir â materion gweithlu yn y Cynllun.